Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ydoedd rhoddi yr Isalaw yn isaf; y prif lais, yr hwn a elwid Tenor, ac a genid gan yr holl gynnulleidfa, yn nesaf ato; yr Alto yn drydydd; a'r Treble, fel y gelwid ef, yn uchaf; ond diammeu fod Ieuan Gwyllt yn iawn yn hyn am "athroniaeth y pwnc." Yr oedd hefyd yn ennill safle fel beirniad cerddorol, ac yn gwneyd ei feirniadaeth yn llawn o addysg. "Mae yn gofus genyf iddo ysgrifenu beirniadaeth gerddorol i ni yn Mhenllwyn unwaith mewn holwyddoreg, yr hwn ddull yr oedd yn dra hoff o hono. Yr oedd ganddo feddwl mawr o holwyddori, fel y moddion mwyaf effeithiol i ddysgu eraill drwyddo."[1] Yn ystod ei holidays byddai yn teithio i ranau o Gymru, a bu ef a'i gyfaill Mr. Julian yn Nghymdeithasfa y Bala, wedi cyrhaedd yno ar eu traed. Cawn ei hanes hefyd gyda Mr. Julian yn Merthyr pan oeddid yn agor y Neuadd Ddirwestol; ac wedi deall fod yno ddau gerddor o Aberystwyth, nid oedd dim a wnai y tro ond eu galw i ganu, a chanodd y ddau un o'r darnau a ymddangosodd wedi hyny yn y Blodau Cerdd, yn ddau lais; a chanasant, meddir wrthym, yn y gallery nes swyno yr holl gynnulleidfa. Ar ol hyny yr oedd lliaws o gyfeillion cerddorol yn ymwthio at y ddau gerddor ieuainc, a buant gyda hwynt am oriau yn eu llettŷ. Un o honynt oedd y Parch. Thomas Levi. Dyma ei gyfarfyddiad cyntaf a Mr. Levi, a dechreuodd cyfeillgarwch rhyngddynt a barhaodd yn gynhes hyd y diwedd.

Wrth ymweled âg Aberaeron i fod yn bresennol yn y llys gwladol hefyd, byddent hwythau yn cael cyfleusdra i ddyfod i'w adnabod. "Yn Aberaeron y clywais ef yn rhoddi yr anerchiad cyntaf a glywais ganddo erioed, a hyny ar yr Ysgol Sabbothol. Ei fater oedd y gallu sydd gan wirioneddau y Bibl i gydio gafael yn y meddwl dynol. Cymerodd gymhariaeth o'r bach yn cydio yn y pysgodyn;

  1. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.