Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gallai y pysgodyn lwyddo trwy blucio i dori y line, ond yr oedd y bach yn aros ac yn cadw ei afael er hyny, Felly am hen adnodau y Bibl: fe allai y gall dyn ieuanc lwyddo i dori y line, megys, yn ei anystyriaeth a'i anghof o honynt am amser, ond yna y mae hi er hyny, ac yna y bydd hi byth hefyd. Yr wyf yn cofio fod 'myn'd' da ar y sylwadau y tro hwnw." [1]

Ond er ei fod yn llafurio yn galed, ac yn dyfod i sylw yn raddol a sicr, eto rhaid addef fod rhyw bethau oedd yn peri cryn anfantais iddo. Yr oedd rhywbeth yn reserved ynddo, ac heb fod yn hawdd agosâu ato. Nid oedd ei ddawn siarad yn rhwydd, nid oedd yn ddeniadol yn hyny, ac yr oedd ei zel am fod pob peth yn ei le yn wastad yn rhoddi agwedd a barai i rai dybied ei fod yn gecrus. Adroddai cyfaill cywir wrthym y byddai yn ofni bron weled neb yn dyfod i'w fasnachdŷ pan y byddai efe yno, am y byddai yn sicr yr elai yn ddadl boeth rhyngddynt ar rywbeth neu gilydd cyn pen ychydig fynydau. I rai oedd yn ei adnabod yn dda mewn blynyddoedd diweddarach, dichon nad yw hyny yn hollol anghredadwy; fod y reservedness, a'r eiddigedd dros yr hyn oedd wir a phur oedd ynddo, cyn i erwinder gael ei refinio gan brofiad blynyddoedd diweddarach, yn gwisgo gwedd oedd yn taraw yn annymunol ar y rhai oedd heb fod yn ei adnabod yn drwyadl. A thybiem fod hyn yn taflu rhyw oleuni ar y gwrthwynebiad a gafodd i fyned i bregethu. Y mae ambell un mor "ddymunol " yn ei holl ymddygiadau nes yw yn ennill ffafr pawb, a phawb yn ei bleidio, pan nad oes yn y person ei hunan ddim neillduolrwydd ymhellach na'i ddymunoldeb; ond y mae ambell un arall, hwyrach yn llawn o alluoedd, wedi ei dori gan natur allan o honi ei hun, nas gall yn ei fyw gael ond ychydig i gredu y gall wneyd rhywbeth; y mae rhyw

  1. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.