Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erwindeb o'i amgylch sydd yn peri i'r mwyafrif ei gamgymeryd a chilio draw. Dichon fod hyn mewn rhan yn natur y dyn ei hun, ac mewn rhan yn codi oddiar anfanteision boreu oes. I'r dosbarth hwn yr oedd Ieuan Gwyllt yn perthyn. Gwelsom fod ysbryd dadleuol yn lled gryf yn yr hen Evan Rhobert ei dad, ac o bosibl ei fod yntau wedi etifeddu peth o'r un natur, ac yr oedd wedi gweithio ymlaen drwy anfanteision o'r dechreuad. Costiodd yr hyn a ennillodd lafur caled iddo ef, ac nis gallai lwyddo i gyrhaedd un gris ond trwy orchfygu; ac nid rhyfedd os oedd yn dwyn gydag ef, yn ei wedd gymdeithasol, dipyn o ôl y frwydr. Ond heb ei adnabod yr oeddid y pryd hwnw. Pe deallasai y rhai a "dybid eu bod yn golofnau" ei lafur caled i gasglu gwybodaeth, ei fod yn cymdeithasu cymaint â'r meddyliau pur a dyrchafedig ymhob cangen, ei awydd angerddol am fod yn ddefnyddiol, a'i gymhwysderau (nad oeddynt eto ond mewn rhan yn weledig) i wneyd daioni mewn gwahanol gylchoedd, rhoddasid iddo "ddeheulaw cymdeithas," ac nid ei gadw yn ol.

Dichon na fyddem yn gwneyd cyfiawnder âg ef heb grybwyll y canlynol. "Fe chwythodd awel go gref o chwantau ieuenctyd arno ef pan o gwmpas deunaw oed, ond cafodd gymhorth i ffoi oddiwrthynt. Y rhyw deg a lygaddynodd dipyn arno, a hyny cyn myned i Aberystwyth, ac wedi myned yno bu yr un anffawd iddo, fel yr addefai wrthyf ei fod wedi cydio mor fast ynddo nes oedd yn rhwystr mawr iddo gyda'i efrydiau. Ar ol dyfod yn rhydd o afaelion y rhyw deg ymaflodd Miss arall ynddo, sef Miss Barddoniaeth. Clywais ef yn cwyno yn dost ar y Miss yma, a dywedai ei fod yn meddwl y byddai yn rhaid iddo ysgrifenu llythyr ysgar iddi, onidê ni chai hamdden i wasanaethu neb na dim ond hi, ac felly y gwnaeth i raddau helaeth. Gallaf feddwl iddo wneyd yr un penderfyniad a'r Apostol Paul, Ni'm dygir i yn gaeth gan ddim.' A gall-