Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wn feddwl mai dyma un o hanfodion ei lwyddiant, sef ei benderfyniad i orchfygu pawb a phobpeth."[1] Nid oedd dim yn bechadurus yn hyn; cadwodd ei hun yn bur ac yn anrhydeddus bob amser. Ond gallasai ambell un dybied, hwyrach, fod gŵr o'i fath ef yn amddifad o deimladau tyneraf y ddynoliaeth. Yn hollol fel arall yr oedd ef—o dan y wisg allanol yn meddu y teimladau dyfnaf a phuraf, ac yr ydym wedi cofnodi y ffaith uchod i'r dyben o ddangos hyny.

Y mae olwyn Rhagluniaeth bellach yn rhoddi tro eto, ond y mae efe wedi cael ei barotoi yn dda trwy ei arosiad yn Aberystwyth. Trwy gylch ei ddarlleniad yr oedd ei wybodaeth wedi eangu, yr oedd wedi ei berffeithio lawer fel cerddor, ac yr oedd wedi dyfod i adnabod y byd yn lled helaeth. Er bod cael ei luddias i bregethu yn brofedigaeth chwerw, eto y mae yn ddiammeu fod hyny wedi bod yn oruchwyliaeth yn llaw gras i ddyfnhâu ei brofiad crefyddol ef ei hun. Yr oedd y rhwystr oddiallan yn troi sylw un o'i dueddfryd ef yn fwy iddo ei hunan.

  1. Llythyr Mr. Absalom Prys at y Parch. R. Roberts.