Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III.

EI FYWYD Y GWAITH—LIVERPOOL, ABERDAR, MERTHYR, LLANBERIS, A'R FRON.

"1852, Dec. 9. Went to Liverpool to edit 'Yr Amserau.' Wrote the first Leading Article' for that Paper Dec. 10th."

YMDDANGOSASAI Hysbysiad yn yr Amserau, fod eisieu un i fod yn îs—olygydd i gynnorthwyo y Parch. W. Rees (Dr. Rees yn awr), ac apeliodd Ieuan Gwyllt am y swydd a phenodwyd ef iddi, ac ar y dyddiad uchod aeth i Liverpool i ymgymeryd â'r gwaith. Wrth wneyd hyny yr oedd yn gadael lle o ymddiried, ac y mae yn debyg yn llawer mwy ennillgar, a rhagolygon o ddyrchafiad a chyfoeth. Wedi myned yno cafodd yn fuan fod holl gyfrifoldeb yr olygiaeth yn disgyn arno, ac nid ychydig oedd ei bryder yn ngwyneb hyny. Yn ystod ei gysylltiad â'r Amserau nid oedd ei gyflog ond bychan, ond yr oedd trwy hyny yn cael gwasanaethu ei wlad a'i genedl. Mae yn debyg nad oedd y cyfnewidiad yn yr olygiaeth yn wybyddus ymhlith y derbynwyr am amser, ac yr oedd hyny yn rhyw fantais iddo; oblegid cafodd le i roddi prawf i'r byd o'i allu fel golygydd i ryw raddau cyn i hyny ddyfod yn hysbys. Nid ydym yn gwybod beth oedd trefn pethau ynglŷn â'r Amserau pan aeth efe yno, ond ymhen amser wedi hyny yr ydym yn cael ei fod ef yn ysgrifenu y prif erthyglau bob wythnos, ynghyd ag edrych dros y gohebiaethau a chynnwys cyffredinol y papyr; tra yr oedd un o'r enw Mr. Manuel yn ysgrifenu y newyddion tramor, a chyfaill Ieuan Gwyllt—Mr. Eleazar Roberts, yn ysgrifenu y