Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

newyddion Seneddol a chyffredinol a nodiadau "Meddyliwr,"[1] y rhai a ddaethant mor hynod ac oeddynt mor alluog; a than law y gwŷr galluog hyn, nid yn unig yr oedd yr Amserau yn cadw ei dir, ond yn ychwanegu cryfder. Dywedai Ieuan Gwyllt yn nechreu 1854,[2] "Y mae yn dda genyf hysbysu i chwi fod llawer rhwng y 'Mysere' a myned i ffordd yr holl ddaear. Yr wythnos y daethum yma, hyny oedd 14 mis i heddyw, y nifer a argrefid oedd 1850; yr wythnos hon y nifer yw 3200. Nicolas o Rwssia, deallwch, nid Ieuan Gwyllt, sydd yn foddion i helaethu ei gylchrediad yn y mesur hwn. Nid oes gan I. Gwyllt, modd bynag, un achos i gwyno o herwydd y derbyniad a gafodd ar ei ymddangosiad o flaen y wlad; yn wir, y mae yn llawer mwy flattering nag y meddyliais y buasai. A dyweyd gair o wirionedd i chwi, yr oeddwn unwaith ar roddi y gorchwyl i fyny, o herwydd yr ofnwn, pan unwaith y gwybyddai y wlad fod Mr. Rees wedi ei adael, y byddai yn llawn bryd i'r Amserau hwylio i roddi ei 'gerdd yn ei gôd,' neu ynte gael rhyw Olygydd mwy galluog ac adnabyddus. Pan gaffom ein machine a'n llythyrenau newyddion, ychwanegir tua chwe' cholofn ato, a hyny am yr un bris. Yr wyf yn lled sicr, bellach, mai nid o fewn y flwyddyn hon y bydd efe marw, gyda bendith Rhagluniaeth." Wedi ymgymeryd â'r gwaith, a chael rhyw arwyddion fod iddo faes i lafurio ynddo, ymdaflodd â'i holl egni iddo. Cawn sylwi eto ar ei lafur fel Golygydd; ni raid i ni yma ond dyweyd fod cynnwys yr Amserau, tra dan ei olygiaeth ef, yn wir werthfawr, ac wedi sicrhâu iddo le mawr yn meddyliau mwyafrif ei ddarllenwyr fel un o alluoedd mawrion, o wybodaeth eang, o graffder neillduol, ac o gymhwysderau hollol deilwng i fod yn arweinydd

  1. Llythyr oddiwrth Mr. E. Roberts.
  2. Mewn llythyr cyfrinachol at y Parch. T. Levi