Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

meddyliau ei gydwladwyr mewn gwybodaeth, gwleidyddiaeth, a chrefydd.

Ond nid oedd y sefyllfa hon ychwaith heb ei rhwystrau a'i gwrthwynebiadau. Wrth gadw y drws yn agored i ryddid barn a llafar, yr oedd yn anmhosibl peidio tramgwyddo rhywrai; ond pan yr ydym yn gweled cyrff pwysig fel Cymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd yn cymeryd sylw o'r Amserau, y mae yn dangos fod iddo safle o bwys a dylanwad yn y wlad. Yn Rhagfyr 1854, dadganodd Cymdeithasfa y Gogledd nad oedd cysylltiad rhyngddi ag ef. Gwelwch, wrth hysbysiad yn yr Amserau nesaf, fod y 'Corff' yn y Gogledd wedi ystyried yn ddyledswydd arno hysbysu i'r byd nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo ef a'r Amserau (nid yw yn ei enwi, wrth gwrs), ac nad yw mewn un modd yn gyfranog o'i olygiadau. Nid wyf fi yn gwybod fod neb wedi bod mor ffol a meddwl hyny erioed; yr wyf yn gwybod yn dda na feddyliais i erioed ddim yn agos at hyny; ac yn wir, byddai yn wir ddrwg genyf gael fy hun yn y cymeriad o organ y Corff, na than ei lywyddiaeth mewn un modd mewn politics gwladol na chrefyddol."[1] Yr wythnos ganlynol drachefn, yr ydym yn cael fod Syr Richard Bulkeley, yr Aelod Seneddol dros Sir Fôn, wedi galw sylw yr Ysgrifenydd Cartrefol at ryw ymadroddion a ymddangosasent yn yr Amserau, a chawn erthygl finiog ar y mater, dan y teitl, "Yr Amserau yn y Cyfringynghor."[2] Ymddengys fod yr Amserau yn dadleu yn gryf dros heddwch, ac yn dangos afresymoldeb a gwastraff rhyfel; a'r unig beth oedd yn bechadurus yn hyny, oedd fod tuedd ynddo, os buasai dynion yn cymeryd ei arwain ganddo, i attal dynion i fyned yn filwyr! Ond ni thybiodd y Llywodraeth yn werth gwneyd sylw o'r mater. Wedi hyny ceisiodd offeiriad Pabaidd yn Neheudir Cymru roddi cyfraith ar yr Am-

  1. Llythyr at y Parch. T. Levi.
  2. Ionawr 3, 1855.