Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

serau am libel trwy gamgyfieithu rhyw frawddegau; ond bu unioni y cyfieithiad yn foddion ar unwaith i'w ryddhâu, eithr nid heb gryn lawer o gostau. Dengys hyn oll fod yr Amserau yn meddu cryn ddylanwad, a bod rhywrai yn teimlo oddiwrth ei bwysau; a dyddorol yw sylwi pwy oedd y rhywrai hyny, a beth oedd achos eu tramgwydd. Drachefn ymddangosodd sylwadau ar glawr y Dysgedydd yn Mawrth 1856, ar yr "Hen Amserau" a'r "Amserau Newydd," ymha un y cyhuddid yr Amserau newydd o ymddwyn yn dra gwahanol i'r hen; a'r pechod y pryd hwnw oedd fod rhyw bethau yn cael ymddangos ynddo nad oeddynt yn foddhaol i ryw ddosbarth yn ngwersyll Annibyniaeth, ac o herwydd hyn bygythid bodolaeth yr Amserau druan. Yr oedd y Golygydd a'r Cyhoeddwr yn dyfod i mewn am ran yn y cerydd hwn, ac yn y rhifyn am Mawrth 5, 1856, ceir atebiad cyflawn gan bob un o'r ddau.

Parhâu i fyned ymlaen yr oedd yr Amserau, ac nid oedd llawer iawn o berygl tra yr oedd y Golygydd a'r Cyhoeddwr yn gallu cyd—dynu. Ond tua diwedd y flwyddyn 1856 dechreuodd teimlad anghysurus gymeryd lle yno, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oedd hyny yn peri pryder dwys a digalondid i Ieuan Gwyllt. Nid yw o un budd na dyddordeb i ni fyned i olrhain y manylion yn yr helynt anghysurus hon; digon yw dyweyd mai yr achos o honi oedd fod llythyrau at y Golygydd yn cael eu cadw oddiwrtho heb yngan gair yn eu cylch, a llythyrau wedi iddo ef eu cymeradwyo yn cael eu gwrthod i mewn heb son gair wrtho ef. Mewn canlyniad rhoddodd rybudd o'i ymddiswyddiad. Dywed, Tachwedd 1856, "Yr wyf wedi rhoddi fy swydd fel Gol. yr Amserau i fyny; bydd pob cysylltiad rhyngof a'r Amserau yn tori gyda diwedd y mis hwn; ac nid oes genyf eto ddim ar y ddaear mewn golwg yn ei le. . . . . Y mae yn bur edifar genyf na fuaswn wedi ei adael er ys amser maith cyn hyn. Pa beth sydd ar fy nghyfer yn y dyfodol, ofer