Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw i mi geisio dyfalu. Y mae fy athroniaeth a'm crefydd neu yn hytrach fy niffyg o honynt—wedi fy ngadael i suddo yn bur isel rai prydiau y dyddiau diweddaf, i iselder ysbryd, i'r hyn y byddaf yn lled ddarostyngedig yn disgyn arnaf ac yn fy ngwasgu weithiau bron i'r graian. Yr wyf yn ysgrifenu y llythyr hwn, chwi a welwch, ddydd Mawrth. Nid wyf yn meddwl yr af yn agos i'r office heddyw, oni anfonir am danaf; ac yr wyf y fynyd hon wedi gweithio fy hun i sefyllfa meddwl na fedraf ysgrifenu dim yn rhagor." [1] Ymddengys, fodd bynag, fod ail drefniad wedi ei wneyd cyn i'r cysylltiad gael ei dori. Yn 1857 cawn ef yn ysgrifenu fel hyn: "Yma yr ydwyf, chwi a welwch; pa un bynag ai yma ai yn rhywle arall y dylwn fod sydd bwnc arall. Fy nghysylltiad â'r Amserau ydyw hyn,—Yr ydwyf yn ysgrifenu yr erthyglau arweiniol—ni bu ond dwy wythnos, yn wir, er ys ychwaneg na phum' mlynedd bellach, heb i mi wneuthur hyny—ac yn ychwanegol at hyny, yn awr er's tua thri mis, myfi sydd yn ysgrifenu y 'Newyddion Tramor' a 'Helyntion yr India;' ac yn ychwanegol at hyny un gyfres, neu un dosbarth o'n 'Henwogion.' Y dosbarth o'r rhai hyn sydd yn fy ngofal i ydyw—Gwleidyddwyr a Gwyddonwyr a Llenorion Cyffredinol; myfi, o ganlyniad, chwi a welwch, a ysgrifenodd ar Lord John a Lord Brougham. Mae y dosbarth arall yn ngofal Mr. Thomas Charles Edwards o'r Bala, ac yn cynnwys Duwinyddion (neu wŷr eglwysig) ac Athronyddion; efe a ysgrifenodd ar John Foster, ac sydd yn awr yn parotoi ar Dr. Chalmers. Y Doctor (Edwards) sydd wedi ein hannog yn y ffordd hon, ac y mae erthyglau y mab yn dyfod trwy ei law cyn dyfod i'r wasg; ond nid wyf yn deall ei fod yn ymyraeth dim yn y cyfansoddiad ymhellach na rhoddi ei veto ar rywbeth fyddo yn ddiffygiol mewn barn neu yn anghywir mewn syniad. Nid

  1. Llythyr at y Parch. T. Levi.