oes genyf ddim i'w wneyd â gohebiaethau, newyddion Cymreig, na hanesion cyffredinol, na Hysbysiadau y Papyr—dim oll; y mae y pethau hyn dan ofal Mr. Lewis (y Parch. Matthew Lewis, gynt o Fachynlleth, wedi hyny o Lewisham, wedi hyny o Dreffynnon), gweinidog yr Annibynwyr y pryd hwnw, a dyn o wybodaeth gyffredinol helaeth, a gradd lled dda o dalent, fel y gwelwch yn 'Rhydderch Prydderch.'"[1] Parhaodd cysylltiad Ieuan Gwyllt â'r Amserau hyd tua chanol Hydref 1858. Yr oedd Baner Cymru wedi ei chychwyn gan Mr. Gee yn Ninbych Mawrth 4, 1857, ond yr oedd yr Amserau yn dal ei dir, ac yn ychwanegu. Parhaodd hefyd am oddeutu blwyddyn wedi darfod cysylltiad Ieuan Gwyllt âg ef, oblegid unwyd ef â'r Faner, dan y teitl Baner ac Amserau Cymru, Hydref 5, 1859.[2]
Yr oedd yn aelod eglwysig yn nghapel Rose Place, ond nid ydym yn deall fod dim mewn cysylltiad â'i aelodaeth eglwysig yn galw am sylw neillduol; yr hynodrwydd mwyaf, fe ddichon, oedd na fu dim neillduol pryd y gallesid dysgwyl hyny. Adnabyddid ef fel Golygydd yr Amserau, ond prin, gan lawer, y tybid fod hyny yn recommendation. Gwyddid hefyd ei fod yn gerddor o'r fath oreu, a dewiswyd ef unwaith i'r swydd o flaenor canu, yr hon swydd y bu ynddi am dymmor byr, ond aflwyddiannus hollol oedd y symudiad hwnw. Yr oedd ysgol i'r plant yn cael ei chynnal dan y capel, fodd bynag, a chafwyd ganddo ef ymuno â'i hen gyfaill "Meddyliwr" i lafurio gyda hono, a bu yn llafurus ac ymroddgar iawn. Crybwyllai Mr. E. Roberts wrthym am un tro neillduol pan nad oedd ond ei hunan i ddechreu yr ysgol, ond y daeth efe (Mr. Roberts) i mewn pan oedd yn dechreu gweddïo; a gweddi hynod oedd hono, gweddi a gofir yn rymus hyd heddyw gan y rhai a'i clywsant. Gwyddid hefyd, yn ddiammeu, fod awydd cryf yn ei