Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feddwl ef am ddechreu pregethu, ond nid ymddengys iddo gael dim cefnogaeth yn hyn o beth gan y swyddogion na'r eglwys yn Rose Place. Er hyny, yn ystod yr adeg hon y dechreuodd bregethu, ond mewn dull afreolaidd. Yr oedd blaenor o'r enw Mr. Edward Morris yn ŵr o gryn ddylanwad yn Liverpool y pryd hwnw, ac efe oedd yn gofalu am y cyhoeddiadau; ac os byddai eisieu rhywrai i fyned i'r lleoedd bychain cylchynol, efe fyddai yn gofalu am hyny; mewn gair, yn ei law ef yr oedd yr holl management, a byddai efe yn anfon ambell un i leoedd felly i lenwi bylchau, ac arfer ei ddawn yn y modd goreu y gallai. Dyma'r ffordd y cafodd yntau gyfle i ddechreu, a dyma'r nodiad sydd ganddo yn y Bibl Teuluaidd,

"1856, June 15. Preached first sermon at Runcorn. Text, Ephes. ii. 12."

"Gwir iddo fod yn pregethu tipyn trwy oddefiad ac awdurdod Mr. Edward Morris, yr hwn oedd y pryd hyny yn archddiacon yn Lerpwl, a'r hwn a arferai anfon allan fechgyn ieuainc i bregethu heb ofyn caniatâd na Chyfarfod Misol na Chymanfa." [1] Gallwn ddychymygu i ryw raddau fel yr oedd ei galon ef yn llawenhâu wrth gael ymaflyd yn y gwaith y rhoddasai gymaint o'i fryd arno; ac er nad oedd yr hyn a eilw dynion yn rheolaidd, eto yr oedd yn cael "gosod ei law ar yr aradr," ac nid gŵr oedd efe i edrych o'r tu ol. Bu dros flwyddyn a chwarter ar ol hyn, ac yn pregethu yn lled fynych yn yr un modd; a dyma'r cwbl a ennillodd, tra yn Liverpool, yn y cyfeiriad yma. Da iawn genym gael cofnodi y sylw canlynol o eiddo Mr. David Evans, Caerdydd, yn y fan hon:—"Daeth i Gaerdydd ddydd Sadwrn, Gorph. 17eg, 1858, a phregethodd gyda ni

  1. Anerchiad y Parch. D. Saunders yn nghyfarfod dadorchuddiad y Feddgolofn yn Nghaeathraw, Mehefin 6, 1879.