Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn nghapel Bethania, am 10 a 6 o'r gloch Sul y 18fed, pan y cafwyd y prawf mwyaf amlwg ei fod yn gyflawn o ddefnyddiau gweinidog cymhwys y testament newydd." [1] Ond nid oeddynt wedi gweled y prawf hwn yn Liverpool, ac yn unig trwy "oddefiad" a than gysgod Mr. E. Morris yr oedd yn cael cynnyg ar y gwaith. Yn nghanol deddfau, a gosodiadau, ac awdurdodau, y mae yn dda weithiau fod ambell un yn llywodraethu yn ol fel y myno efe ei hun; a phan y mae eglwys Dduw heb fod â'i llygaid yn ddigon agored, y mae yn debyg fod rhagluniaeth Duw yn goruwchlywodraethu hyn er cyrhaedd rhyw amcanion o'r eiddo ei hun.

Fel cerddor hefyd yr oedd yn parhâu i lafurio yn ddyfal yn ystod ei arosiad yn Liverpool. Un rhan o'i lafur gyda'r plant yn vestry y capel oedd eu dysgu i ganu. Ac yr ydym yn cael iddo fod yn dysgu egwyddorion cerddoriaeth yn y Cropper's Hall, lle, os nad ydym yn camgymeryd, y cynnelid Ysgol Sabbothol hefyd fel cangen o Rose Place a chapel Burlington Street. Dysgai ei ddosbarth yn ol cyfundrefn Waite, yr hon yn ddiddadl oedd yn fwy athronyddol gywir na chyfundrefn Hullah. Y pryd hwnw nid oedd ganddo fawr o feddwl o gyfundrefn y Tonic Solfa, oedd yn dechreu dyfod i sylw trwy ymdrechion y Parch. John Curwen; yr oedd yn meddwl mwy o'r Hen Nodiant. Bu hefyd yn rhoddi y gwersi cyntaf i'w gyfaill Mr. Eleazar Roberts (Meddyliwr), yr hwn ar ol hyny a gafodd fwy o oleuni trwy gyfundrefn y Tonic Solfa, ac a wnaeth gymaint er ei dwyn yn ymarferol yn Nghymru. Bu yn aelod am dymmor, os nid am yr holl amser y bu yn Liverpool, o'r Philharmonic Society, a thybiwn nad oedd hyny yn ffafriol iddo yn ngolwg rhyw ddosbarth. Ymroddai yn ddyfal i ddyfod yn gydnabyddus â cherddoriaeth ac â cherddorion,

  1. Mewn llythyr at yr Ysgrifenydd.