Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a theithiai yn fynych i Lundain a phrif drefydd y deyrnas i gyngherddau mawrion; yr hyn nid yn unig a fwynhâi ef ei hun, ond a ddesgrifiai yn ardderchog i ddarllenwyr yr Amserau dan y penawd "Tŷ Arthur Llwyd." Yn y modd yma, ni chai un cerddor o fri fod na byddai efe yn sicr o fod yn gwybod ei hanes, ac wedi gwrandaw arno neu arni. Dechreuodd ddyfod yn enwog hefyd fel Beirniad Cerddorol. Cawn ef yn feirniad y cyfansoddiadau cerddorol yn Eisteddfod Ffestiniog, 1854, lle yr oedd Mr. William Davies, Cae'rblaidd, yn fuddugol ar y Dôn Gynnulleidfaol, a Gwilym Gwent, y pryd hwnw yn ngweithiau y Blaenau, Sir Fynwy, yn ail. Efe oedd un o'r beirniaid yn Eisteddfod Llundain, 1855, lle yr oedd Mr. J. Ambrose Lloyd ac Owain Alaw yn gydfuddugol ar y Magnificat. Yr un flwyddyn cawn feirniadaeth faith a manwl ar Anthem Manchester, lle y bu Mr. J. A. Lloyd yn fuddugol. A'r un modd mewn llïaws o rai cyffelyb, fel yr ydoedd yn dyfod yn awdurdod fel Beirniad Cerddorol. Bu yn arweinydd Cymanfa Gerddorol Ddirwestol Gwent a Morganwg, am y tro cyntaf, yn y bedwaredd gylchwyl, Gorphenaf 19, 1858. Ar yr un pryd, yr oedd iddo lafur arall, yr oedd ar hyd y blynyddoedd yn llafurio yn ddyfal gydag ef, sef gwneyd casgliad o Donau Cynnulleidfaol. Yr oedd y wlad wedi dyfod i ddeall ei fod gyda'r gwaith hwn, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano. Ond yr oedd yn costio llafur dirfawr iddo ef. Nid oedd yn foddlawn heb chwilio yn drwyadl i drysorau cerddorol pob cenedl. Yn ei fyfyrgell o ddydd i ddydd am flynyddoedd, a'r rhan fynychaf yn hwyr y nos, dyna ei brif lafur, Yn y llythyr at y Parch. T. Levi yn 1857, ysgrifena, "Mae fy mhregethu yn aros yn yr un fan, a'r fan hono yn lled anfoddhaol; fy Llyfr yn prysuro i wneyd ei ymddangosiad, a bydd Hysbysiad am y dydd yn bur fuan yn yr Amserau." Yr oedd ei holl fryd am i'r llyfr hwn gynnwys y detholiad goreu, a "detholiad" ydoedd o swm anferth o gerddoriaeth