Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grefyddol pob gwlad. Nid arbedai na thraul na thrafferth i'w wneyd y goreu oedd bosibl, ac nid oes neb a all amgyffred y llafur yr ymgymerodd âg ef i'r amcan hwnw.

Ond teimlasai er ys blynyddoedd fod yn anghenrheidiol lefeinio meddwl y wlad i fod yn addfed i'r cyfryw ddiwygiad, ac ymdrechai wneyd hyny trwy ei feirniadaethau a'i ysgrifau yn yr Amserau. I'r un amcan hefyd parotôdd ddarlith ar Gerddoriaeth, ond yn benaf cerddoriaeth y cysegr, a bwriadai geisio cael côr i ganu yn ystod y ddarlith i'w illustratio,—i ganu yn gyntaf donau o'r hen ddull arferedig, y rhai gwaelion, ac wedi hyny donau da ac ardderchog, er mwyn dangos eu rhagoriaeth. Traddodwyd y ddarlith hon yn gyntaf yn nghapel Rose Place yn Liverpool, ond methasom gael o hyd i'r dyddiad; tebyg ei fod tua diwedd 1853 neu ddechreu 1854. Ar ei awdurdod ef ei hun cawn grybwylliad am yr ail waith (Chwefror 1854), "Yr wyf fi i draddodi fy ail ddarlith ar Gerddoriaeth yr wythnos gyntaf yn Mawrth." Un tro pan yn traddodi y ddarlith hon yn nghapel Pall Mall, y Parch. J. Hughes (Dr. Hughes yn awr) yn y gadair, a phan y cenid y dôn "Pen Calfaria" fel esiampl o'r tonau gwaelion, ar y geiriau, "Gwaed y groes sy'n codi i fyny," &c., aeth y gynnulleidfa i ddyblu a threblu gyda hwyl, nes tynu y cadeirydd hefyd gyda hwynt. Fel y gallesid dysgwyl, yr oedd hyn yn taflu dyryswch mawr ar ffordd y darlithydd. Bu tro cyffelyb hefyd yn nghapel Hermon, Dowlais, a dichon fod yno rai yn procio'r tân, nes gyru yr hen wragedd i'r hwyl, a'r darlithydd nis gallai fod mewn tymher dda dan y cyfryw amgylchiadau. Un o'r pethau fyddai yn ei anfoddhâu ef fwyaf o'r cwbl fyddai clywed tonau gwael ac anghyfaddas yn cael eu canu ar eiriau cysegredig. Un tro yr oedd efe a Meddyliwr gyda'u gilydd yn nghapel Burlington Street yn gwrando y Parch. Henry Rees yn pregethu ac yn gweinyddu ordinhâd Swper yr Arglwydd, ac ar y Sacrament