Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhoddodd Mr. Rees yr emyn, "O deffro'n foreu, f'enaid gwan," &c., a chanwyd arni y dôn ddiddym hono "Lingham." Ai Mr. Rees ymlaen, "Caf yma yfed cariad pur," &c.; "Yma dymunwn dreulio'm hoes," &c.; ac yr oedd y fath dôn salw ar y fath eiriau bendigedig yn disgyn fel dwfr oer ar gnawd Ieuan Gwyllt nes yr oedd bron a methu ymgynnwys yn y seat—iddo ef yr oedd yn annyoddefol. Bu yn traddodi y ddarlith mewn amrywiol fanau ar hyd Cymru, ac yn ceisio argyhoeddi meddyliau y genedl i geisio tonau gwell na'r math hwnw. Er hyny nid llwyddiannus oedd yn ei draddodiad fel darlithydd mwy nag fel pregethwr. Adroddwyd wrthym iddo ddyfod unwaith, pan yn swyddfa yr Amserau, i Bethesda, Arfon, i draddodi dwy ddarlith ar Gerddoriaeth. Y noson gyntaf yr oedd dysgwyliad mawr am dano, a'r lle yn llawn o wrandäwyr, ond yr ail noson nid oedd ond ychydig iawn yn bresennol. Diammeu fod hyn yn achos o ddigalondid mawr iddo ef ei hun, ond ymroddodd i orchfygu y rhwystrau yn hyn, a daeth yn siaradwr da a dymunol, er nad fe allai yn hyawdl. Yr oedd hyn yn un o'r llïaws esiamplau yn ei fywyd ef o'i allu anghyffredin i wynebu anhawsderau, a chael yr oruchafiaeth arnynt.

Ond gadawer i ni ofyn, O ba le y mae yr ysgrifau grymus yn yr Amserau, a'r beirniadaethau galluog mewn Eisteddfodau, a'r dylanwad hwnw oedd eisoes yn dechreu creu chwyldroad cerddorol yn y wlad, yn dyfod? A oes dim modd i ni gael cipolwg arno yn ei fywyd cartrefol? Cawn ei fod yn llettŷa yn 1854 yn 19 Netherfield Road, Everton—cymydogaeth a hoffai yn fawr, er ei bod ymhell oddiwrth y swyddfa (tua milldir a hanner); ddiwedd y flwyddyn hono yn 85 St. Anne's Street, ac yn 1856 yn 97 St. Anne's Street; ac yr oedd swyddfa yr Amserau yn 15 St. Anne's Street. Yn ei fyfyrgell y byddai efe yn ddyfal. "Arferwn alw heibio iddo ymron bob dydd wrth fyned i'r