Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwyllt yn preswylio mewn un gell o'i mewn. Y mae ei fod yn Olygydd papyr newydd yn ei wneyd yn anathema yn ngolwg pob penog Methodist uniongred. Y mae yn anmhosibl, chwi wyddoch, fod un dyn duwiol yn treulio ei holl amser gyda pheth mor wael a phapyr newydd. Y mae ei fod yn Fethodist yn ei wneyd yn wrthodedig gan lenorion Annibynol y dref. Cafodd y fraint o weddio yn gyhoeddus yn y capel unwaith wedi dyfod yma. Er fod ganddo ddau neu dri o gyfeillion yn y lle, ei gyfeillion penaf ydyw y brodyr gwrol sydd yn chwerthin am ei ben drwy y dydd oddiar y silff acw, ac yn barod, ar yr amnaid leiaf, i ddadgan eu barn ar unrhyw bwnc a roddo ger eu bron. Acw y mae y duwiol Matthew Henry, Chalmers, R. Hall, John Foster, Coleridge, Isaac Taylor, McCosh, Dr. Owen, Humboldt, Dove, Neander, Lamartine, Rogers, Macaulay, Syr J. Stephen, Gilfillan's Arnold, De Quincey, Addison, Syr W. Hamilton, Browne, Stewart, Reid, Locke, Butler, Shakespeare, Milton. Pw, pw! I ba beth yr af ymlaen fel hyn Digon yw dyweyd mai yn fy nghell yr ydwyf, mai dyma fy nghwmni, ac nad oes braidd neb yn gweled ond rhyw metamorphoses o honof ar golofnau yr Amserau." Dyma fywyd dedwydd! I un o'i fath ef, oni b'ai am ychydig o "wibed meirw" oedd yn anhwyluso rhyw gymaint ar ei gwpan, braidd na thybiem mai dyma un o'r cyfnodau mwyaf dedwydd yn ei fywyd. Yn Mehefin, 1853, bu yn fuddugol ar draethawd ar "Addysg y rhyw Fenywaidd," yn nghylchwyl lenyddol Dinorwic, a chanmolid y traethawd yn fawr gan y beirniad—Eben Fardd. Yr ail oedd Mr. R. J. Derfel. Ymddangosodd erthygl o'i eiddo hefyd yn Hogg's Instructor tua'r adeg hon. Yn 1855 ysgrifenodd amryw lythyrau i'r Oenig, dan yr enw Siôn Llwyd, Pentre Sais. Ac yn y Traethodydd am 1857 ymddangosodd erthygl o'i eiddo ar Mendelssohn. Ond er mai mewn unigrwydd dystaw yr oedd yn treulio y rhan fwyaf o'i amser, yr