Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn sylwi yn fanwl ar bob symudiadau oedd yn cymeryd lle o'i amgylch yn Liverpool, yn gystal ag yn y byd mawr, ac yr oedd yn mesur a phwyso yn ddyfal bob cerddor, llenor, bardd neu bregethwr y caffai gyfleusdra i wrando arno, ac yr oedd ei feirniadaeth arnynt yn dangos craffder mawr, a meddwl treiddgar. Nis gallwn yma ddyfynu o'i lythyrau, ond hyderwn yr argreffir cryn lawer o honynt, am y byddant, nid yn unig yn wir alluog ond hefyd yn ddyddorol ac adeiladol. Ceir engraifft deilwng yn y "Dyfyniadau o lythyr at Gyfaill" yn yr Oenig, Cyf. II., tu dal. 108. Yr oedd ganddo syniadau uchel am y weinidogaeth a'r hyn oedd yn deilwng o honi, a chondemniai yn ddiarbed bob peth israddol. Cymerer y canlynol fel esiampl,* "Nid wyf yn meddwl y gall neb fod yn teimlo yn fwy gwrthwynebol i ryw sing—song o bregethu na thraethu na myfi. Y mae dull a phregethu y corff mawr o'r Saeson yma yn peri i mi golli pob amynedd wrth eu gwrando. O ddifrif, pa ryfedd fod corff y bobl y dyddiau hyn yn Lloegr yn ymddyeithrio oddiwrth yr hyn a elwir yn grefydd, ac a bregethir fel efengyl Byddai yn rhaid wrth wyrthiau i'w hattal. Y mae llawer iawn gormod o gorachod meddyliol yn llenwi pulpudau Cymru hefyd, dynion eiddil, cysglyd, dioglyd, y rhai ni allant, ac nad oes yn eu bryd i gyflawni dim uwch na bod yn ostyngedig i'r 'galluoedd sydd'—bod mor dduwiol-ymddangosiadol ag y mae modd—a phatchio i fyny nifer o ymadroddion pregethurol ar lun pregeth—a dysgu rhyw dôn na chlywir ei chyffelyb, ïe yn wir, na oddefir ei chyffelyb mewn unrhyw gymdeithas ag y byddo common sense a chanddo ryw lywodraeth arni." Wrth feddwl am fod yn bregethwr ei hunan, dymunai fod yn bregethwr da, nid yn "common jack," chwedl yntau. "Ond ni fu erioed yn boblogaidd yn Liverpool—y select few yn unig oedd yn ei