Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chyn hir cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth." Llettŷai dros yr holl amser y bu yn Aberdâr cyn ac wedi priodi yn nhŷ Mr. William Morgan (Y Bardd). Y mae yma ychydig gamgymeriad gyda golwg ar yr amser y bu yn byw yn Aberdâr,—llai o bythefnos na blwyddyn y bu yno, fel y cawn sylwi yn fanylach eto. Ond blwyddyn bwysig oedd hon iddo yn ei dygwyddiadau. Nid ymddengys fod ei gysylltiad â'r Gwladgarwr yn un dedwydd—nid oedd cynnwys cyffredinol y papyr yn gyfryw ag a gymeradwyai; gollyngid i mewn iddo bethau rhy isel eu chwaeth, er mwyn boddio y llïaws, yr hyn oedd yn flinder i'w ysbryd ef, fel y penderfynodd roddi yr olygiaeth i fyny, a gwnaeth felly.

Fel y sylwyd, yn Aberdâr y dechreuodd bregethu. Cyfarfyddasai â'r Parch. D. Saunders yn Liverpool pan yn swyddfa yr Amserau, a chawn grybwylliad am dano yn un o'i lythyrau, dyddiedig Tachwedd 18fed, 1856; ond nis gwyddom yn sicr ai dyma adeg y cyfarfyddiad cyntaf. A pheth rhyfedd yw cyfarfyddiad dynion â'u gilydd. Y maent yn debyg i'r darnau o gorcyn yn nofio ar wyneb y dwfr; weithiau gwelir hwy yn troi o amgylch eu gilydd am gryn amser cyn dyfod at eu gilydd, fel pe mewn "blys ac ofn," ond o'r diwedd yn ymollwng at eu gilydd; bryd arall y mae y ddau fel pe yn adnabod eu gilydd trwy reddf, ac yn llithro yn naturiol at eu gilydd ar eu hymddangosiad cyntaf. Felly meddyliau, weithiau byddant yn hir cyn adnabod eu gilydd, bryd arall bydd fel pe b'ai rhyw affinity naturiol yn eu tynu ynghyd. Gallem dybied mai felly y bu gyda Mr. Saunders ac Ieuan Gwyllt. "Y tro cyntaf y daethant i gyffyrddiad â'u gilydd ydoedd yn Lerpwl, lle yr oedd Ieuan Gwyllt, er nad oedd ond dyn ieuanc, yn olygydd ar yr Amserau. Dechreuodd rhyngddynt y pryd hwnw gyfeillach a barhâodd hyd ddydd ei farwolaeth; ac hefyd, yn bellach na hyny, yr oedd