Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyngddynt gyfeillgarwch na ddarfyddai byth." [1] Wedi dyfod i Aberdâr yr oedd yn aelod o'r eglwys yr oedd Mr. Saunders yn weinidog arni. Ac yr oedd rhai eraill yn Sir Forganwg wedi canfod ynddo ddefnyddiau "gweinidog cymhwys y testament newydd" eisoes, er mai mewn ffordd "afreolaidd" yr oedd yn gweithio; ac yr oedd yn awr wedi disgyn i gylch oedd yn gallu gwerthfawrogi a chydymdeimlo; ac nid hir y bu pethau cyn gael eu gosod yn eu lle, fel y dylasent fod ymhell cyn hyny. Yr oedd yr awyrgylch yma yn bur wahanol i Liverpool; yno nid oedd ond ychydig gyfeillion—y select few, yn ei adnabod; yn awr yr oedd y cylch yn ëangach o lawer, a'u dylanwad yn gryfach. Dechreuodd felly yn rheolaidd, yn ol trefn y Methodistiaid yn Sir Forganwg y pryd hyny, a chymeradwywyd ef gan y Cyfarfod Misol. Mae Aberdâr a Sir Forganwg yn haeddu clod am hyn; nis gwelodd Aberystwyth a Sir Aberteifi y defnyddiau—nis dadguddiwyd i "ddoethion a deallus" tref Liverpool—ond cafodd Sir Forganwg y fraint o ddywedyd "Duw yn rhwydd" wrtho, ac agor y drws i "ŵr mawr yn Israel" ddyfod i'r golwg, ac i gylch mawr ei ddefnyddioldeb.

Dygwyddiad pwysig arall yr adeg hon oedd ei briodas.

"1859, Jan. 4. Married to Jane Richards at Jewin Crescent Chapel, the Rev. O. Thomas officiating."

Un o Aberystwyth oedd hi, ac yr oedd wedi dyfod i gydnabyddiaeth â hi yn ystod ei arosiad yno. Gallasai ambell un dybied ei fod wedi gwneyd camgymeriad mawr yn ei ddewisiad ei bod hi yn meddu gormod o'r un tueddiadau ag ef ei hunan. Tybir yn gyffredin i ddyn reserved, dystaw, tueddol i fod yn ymneillduedig, mai cael gwraig gymdeithasgar, nwyfus, a gwyneb-agored fuasai oren; tra o'r

  1. Anerchiad y Parch. D. Saunders yn Nghaeathraw.