Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ochr arall, i ddyn tymherog a hedegog, y buasai gwraig dawel a hunanfeddiannol yn well. Gall fod gwirionedd yn hyn mewn llaws o amgylchiadau. Ond tybiwn fod Mr. Roberts wedi cael gwraig o'r dosbarth cyntaf. Dichon y gallasai un wahanol fod yn fwy o gymhorth mewn rhyw ychydig o bethau; ond buasai gwaith mawr ei fywyd ef wedi cael ei rwystro i raddau helaeth, os nad ei lwyr ddyrysu. Ond er fod ei serchiadau yn gryfion, eto y mae yn ddiammheu genym mai nid ar amcan y gwnaeth efe ei ddewisiad, ond ei fod wedi ystyried yn dda cyn cymeryd cam mor bwysig. Un reserved (neillduol felly), dawel, ddystaw, eto yn meddu synwyr cryf a gallu neillduol, ni a feddyliem, i gydymdeimlo âg ef yn ei amcanion a'i ymdrechion, ac ar yr un pryd yn gallu llwyr ofalu am bob peth amgylchiadol, fel ag i adael ei feddwl ef yn rhydd at ei waith ei hun. Mewn gair, yr ydym yn gallu gweled yn awr ei bod mor neillduol gymhwys iddo ef, fel nas gallwn lai na chredu nad rhagluniaeth Duw a'i darparodd i fod yn "ymgeledd gymhwys iddo," a'i fod wedi gofyn am gyfarwyddyd y Nefoedd yn y dewisiad o honi.[1]

Yr adeg hon hefyd daeth y dygwyddiad hir—ddysgwyliedig oddiamgylch, sef ymddangosiad y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol.

"1859, April. Llyfr Tonau Cynnulleidfäol was published."

"Wedi bod yn gweithio yn galed (dros chwe' blynedd, fel y dywedodd wrthym), yn chwilio llyfrau goreu y wlad

  1. Yn haf y flwyddyn hon yr oedd yn beirniadu mewn cystadleuaeth yn Ysgoldy, Sir Gaernarfon, a daeth Mrs. Roberts gydag ef, a llettŷent yn nhŷ Mr. W. Jones, Clwtybont. Aent oddiyno i gyfeiriad Llanberis, ac o ochr Dinorwig gwelent y dyffryn prydferth, a Llanberis yn gorwedd o'u blaen. "Dacw le prydferth!" meddai efe; "yn y fan acw y buaswn yn dymuno byw oni fuasech chwi?" meddai wrth Mrs. Roberts. "Buaswn, 'rwy'n meddwl," oedd ei hatebiad hi. Ni feddylient y pryd hwnw fod y dymuniad hwn i gael ei gwblhâu chwe' blynedd yn ddiweddarach.