Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hon a gwledydd eraill am y tonau goreu a mwyaf priodol, gohebu â llawer o'r prif gerddorion, yn gofyn eu cyfarwyddyd a'u cynnorthwy, heblaw cyfansoddi a chynganeddu, trefnu a chaboli llawer ei hunan, ac fel pe buasai y Nefoedd wedi rhagdrefnu, daeth y Llyfr Tonau allan yn ei iawn bryd."[1]

Yn Liverpool y cyflawnodd bron y cwbl o'r llafur hwn, ac yr oedd y llyfr yn y wasg pan y symudodd i Aberdâr. "Trwy garedigrwydd rhai cyfeillion yno,[2] llwyddodd i gael cynnorthwy i ddwyn allan yr argraffiad cyntaf o'r llyfr tonau hwn. Y mae yn debyg na ddychymygodd y buasai yn dyfod mor boblogaidd; ac eto meddai gryn lawer o ffydd ynddo, fel yr anturiodd ystrydebu yr argraffiad cyntaf hwnw, gan brophwydo y buasai y wlad rywbryd yn agor ei llygaid i weled ei ragoriaethau, ac i wneyd defnydd o hono. Cyrhaeddodd y llyfr ei ail argraffiad; ond aeth yr argraffiad cyntaf a'r ail i dalu traul yr ystrydebu, heb ddwyn dim elw i'r sawl oedd wedi llafurio i'w ddwyn allan."[3] Cawn gyfle eto i sylwi yn fwy manwl ar neillduolion y llyfr. Cyrhaeddodd yn fuan gylchrediad helaeth. Yn Medi, 1861, cawn hysbysiad am y nawfed a'r ddegfed fil; yn Chwefror, 1862, hysbysiad am yr 1leg a'r 12fed fil; ac yn Ngorphenaf, 1863, am yr 16 a'r 17eg fil! "Nid oes eisieu crybwyll bron i'r llyfr anmhrisiadwy hwn gael y derbyniad mwyaf gwresog gan bob cynnulleidfa yn ddiwahaniaeth a ganai yn Gymraeg. Mewn ystyr gerddorol, yn ddiau, dyma'r ergyd mwyaf llwyddiannus yn yr oes hon, yr hyn a brawf fod gan ein hawdwr lygad eryraidd i ganfod beth oedd eisieu, a digon o wroldeb i gario allan ei ddrychfeddwl yn yr amser ac i'r fantais oreu."[1] Yr oedd cyhoeddiad y llyfr hwn yn gyfnod pwysig yn hanes Ieuan Gwyllt.

  1. 1.0 1.1 Alaw Ddu mewn erthygl ar Ieuan Gwyllt, Ionawr 1878.
  2. A rhai brodyr o Aberystwyth
  3. Anerchiad y Parch. D. Saunders