Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

GWYR y darllenydd, ond odid, fod Pwyllgor Eisteddfod Llanberis, 1879, wedi cynnyg gwobr o £20 am y "Traethawd—Bywyd ac Athrylith y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt)." Hyn fu yr achlysur i'r ysgrifenydd gymeryd y mater mewn llaw, ac anfonwyd y cyfansodd. iad hwn i'r Beirniaid, y Parchn. T. C. Edwards, M. A., Aberystwyth, a D. Saunders, Abertawe, ynghyd a'r nodiad canlynol:—Geiriad y testun ydoedd: "Traethawd—Bywyd ac Athrylith y Parch. J. Roberts (Ieuan Gwyllt).' Gellid cymeryd y geiriad hwn mewn dwy ystyr, un ydyw Traethawd ar Fywyd ac Athrylith Ieuan Gwyllt. Ond wedi gwneyd ymchwiliad, deallodd yr ysgrifenydd mai amcan y Pwyllgor oedd rhoddi cefnogaeth i gasglu ynghyd ffeithiau hanes bywyd y gwrthddrych, ynghyd a sylwadau ar ei athrylith, cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar, fel ag i fod yn sylfaen, o leiaf, i wneyd Cofiant' iddo. Hyn sydd yn cyfrif am y ffurf sydd ar y traethawd hwn, a bod cymaint o lafur wedi cael ei roddi i olrhain yr hanes. mae yr ysgrifenydd, fodd bynag, wedi dyfod i wybod am y ffynnonellau i wybod llawer yn ychwaneg, o ba rai nis gellid gan amser wneyd defnydd yn y traethawd hwn. Cyflwynir ef felly, fel sylfaen, ac nid fel Cofiant' cyflawn. Ymdrechwyd, hyd yr oedd yn ddichonadwy, i gael pob dyddiad a phob ffaith yn gywir.—Melindwr." Nid ymddengys i'r Parch. D. Saunders ysgrifenu un feirniadaeth, ond anfonodd y Parch. Principal Edwards, M. A., y nodiadau canlynol i Bwyllgor yr Eisteddfod:

"Y mae Mr. Saunders, a minnau, yn cyttuno i roddi canmoliaeth uchel i'r ddau draethawd. Ond golyga efe fod traethawd 'Llenor' yn ogydwerth â thraethawd 'Melindwr,' o herwydd mai nid 'Cofiant' o Ieuan Gwyllt, ond traethawd beirniadol arno, a geisiai y Cyfeisteddfod. Yr oeddwn innau, ar y llaw arall, yn ystyried traethawd 'Melindwr' yn llawn mwy galluog, hyd yn nod fel beirniadaeth ar Ieuan Gwyllt, na thraethawd 'Llenor.' Ond golygwn ymhellach mai amcan y Cyfeisteddfod oedd cael, nid yn unig beirniadaeth arno, ond hanes ei fywyd hefyd, a hyny yn ddigon cyflawn i fod yn sail 'cofiant' o hono. Y mae y ddau feirniad, yr wyf yn meddwl, yn cyttuno fod 'Melindwr' wedi llwyddo yn fwy na 'Llenor' i gasglu defnyddiau 'cofiant.' Yr ydym hefyd yn cydolygu fod traethawd Llenor' yn cael ei anurddo, yn enwedig yn y rhan gyntaf o hono, gan fath o ffugfarddoniaeth. O'm rhan fy hun, rhaid i mi ychwanegu fy mod yn canfod ynddo arwyddion nid anfynych o ddiffyg chwaeth; er engraifft,