Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei sylwadau ar ferched fel ysbrydion gwasanaethgar,' ac yn y rheswm a rydd dros sylwi ar grefydd 'Ieuan Gwyllt' sef am fod dyn yn 'anifail crefyddol.' Heblaw hyn, ymddengys i mi fod traethawd 'Llenor' yn fwy anaddfed, yn fwy anghyfartal, yn llai cyfunol yn ei wahanol ranau, na thraethawd 'Melindwr.' Pe cyhoeddid y ddau, nis gallaf lai na meddwl mai traethawd 'Melindwr' fyddai y mwyaf buddiol a gwerthfawr i'r wlad. Nid wyf yn petruso dyweyd y byddai traethawd 'Melindwr' fel y mae, heb ychwanegiadau ato, yn 'gofiant' rhagorol o Ieuan Gwyllt; ac nid wyf yn meddwl y ceir neb arall, bellach, ar ol marwolaeth ei frawd, y Parch. Robert Roberts, a ysgrifena gofiant' mwy cyflawn a boddhaol ymhob ystyr.' Ond y mae fy nghyfaill, Mr. Saunders, a minnau yn foddlawn i adael y peth yn nwylaw trydydd beirniad. Os bydd ef yn cydolygu âg un o honom, ni bydd un anhawsder yn aros. Ac os bydd yn gwahaniaethu oddiwrth y ddau feirniad, ac yn ystyried traethawd 'Llenor' yn oreu, diammeu genyf yr ymfoddlona, fel finnau, i'r wobr gael ei rhanu yn gyfartal rhwng y ddau ymgeisydd. Ydwyf, anwyl Syr, yr eiddoch yn gywir, T. C. EDWARDS.

Penododd y Pwyllgor y Proffeswr John Rhys, Rhydychain, yn drydydd beirniad, a dyfarnodd y Proffeswr, fel y Parch. D. Saunders, fod i'r wobr gael ei rhanu.

Er mai yr uchod fu yr achlysur i gychwyn y gwaith, eto y mae yn rhaid i mi ddyweyd ei fod yn llafur yr oedd cariad yn ymaflyd ynddo yn galonog; ac fel yr oeddwn yn myned ymlaen yr oedd fy edmygedd o'r gwrthddrych a'm serch tuag ato yn cynnyddu fwyfwy. Ac ymdrechais roddi darlun o hono mor gyflawn ag y gellais, o herwydd nid mynych y chyfarfyddir â chymeriad mor amrywiol a chyflawn a leuan Gwyllt.

Dyledus yw arnaf gydnabod yn ddiolchgar y cynnorthwy siriol a chalonog a dderbyniais gan Mrs. Roberts, gweddw y gwrthddrych; ynghyd a Mrs. Pugh, chwaer Ieuan Gwyllt; y Parchn. Dr. Edwards, Bala; J. Williams, Llandrillo; T. Levi, a J. Williams, Aberystwyth; Mri. Eleazar Roberts, Liverpool; Absalom Prys, Penllwyn; Julian, Edwards, a Samuel, Aberystwyth, ac amryw eraill, pa rai a gydnabyddir oll yn ystod y gwaith.

Hyderaf nad ystyrir yr ymdrech yn hollol annheilwng fel teyrnged o barch i gyfaill mor bur, ac i un a wnaeth gymaint dros ei wlad a'i genedl.


Yr eiddoch yn ffyddlawn,

J. EIDDON JONES.

Mehefin 1880.