Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams hefyd (Edward Defynog), un o'r darllenwyr cerddoriaeth mwyaf cyflym a chywir y pryd hwnw. Efe oedd arweinydd y tenor yno; yn sêt y tenor yr oedd Mr. Silas Evans (Cynon), yn awr o Abertawe; Mr. W. Griffith, a symudodd wedi hyny i Australia; Mr. W. Roberts (sydd yn y graian er ys blynyddoedd), ac ysgrifenydd y nodiadau hyn. Pedwar tua'r un oedran yn orhoff o ganu, ac ynddynt awydd angerddol i ddeall cerddoriaeth, a dyfod yn gerddorion. Yr oeddynt â'u llygaid a'u clustiau yn llydan agored i dderbyn gwersi ac awgrymiadau Mr. Roberts, ac yfasant eu dysgeidiaeth fel yfed dwfr. Yr oedd mor bur, mor fresh, a'i ddullwedd yn ei chyfranu mor hynaws, mor sobr ac ennillgar. I ddwylaw y personau hyn ac eraill, o bosibl, nas gallwn eu dwyn i gof y fynyd hon, y syrthiodd y gwaith boddhâus o ddarllen a chanu oddiar y proof sheets, y tonau cyntaf, mesur 10au, yn y Llyfr Tonau Cynnulleidfäol. Yr ydym yn cofio fel pe buasai ddoe, yr effaith a gafodd yr hen donau: "Clod," "Warsaw," "Coburg" ac "Erfyniad" arnom; ac fel y gwenai yntau (gwên nad oes yn bosibl ei darlunio, pan y caffai ei foddhâu) wrth arwain a chanu bass. Yr oedd yr ychydig gantorion a enwyd, ag eithrio, fe allai, y pedwar ieuengaf o honynt, yn gallu deongli a mwynhâu y gerddoriaeth buraf y pryd hwnw. Mor gyflym hefyd y cymerodd y gynnulleidfa hon (Bethania) i fyny arddull y tonau syml ond mawreddog hyn, ac eu llanwyd gan eu hysbryd. Ond, wrth gwrs, yr oedd cael presennoldeb y fath gerddor i egluro a chynghori yn fantais anghyffredin at hyny. A rhaid i ni sylwi yn y fan hon mai nid ychydig oedd y gwasanaeth a wnaeth y gynnulleidfa hon, ynghyd ag ychydig o gynnulleidfäoedd eraill o chwaeth uchel, tuag at ddwyn y gwaith i sylw, ac i gael ei werthfawrogi. A theg yw dyweyd fod canu cynnulleidfäol Bethania bob