Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amser yn ei foddhâu; a hoffai siarad am dano hyd ei ddyddiau olaf."[1]

Yn mis Mai y flwyddyn hon (1859), ymddangosodd y rhifyn cyntaf o Delyn y Plant, cyhoeddiad misol bychan ceiniog i'r plant, o dan olygiad y Parch. Thomas Levi ac Ieuan Gwyllt, yr hwn a barhâodd i ddyfod allan hyd Rhagfyr, 1861, pryd y rhoddodd i fyny ar ymddangosiad Trysorfa y Plant, dan nawdd ac yn eiddo i Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Rhyw hanner dwsin o ysgrifau oedd y cwbl a ysgrifenodd Ieuan Gwyllt i'r cyhoeddiad bychan hwn, heblaw darparu bron yr oll o'r Tonau a ymddangosodd ynddo.

Mae ôl llaw Rhagluniaeth i'w gweled yn amlwg yn ei arweiniad i Aberdâr. Cyn gadael Liverpool, yr oedd wedi cyttuno i fyned i un o'r swyddfeydd uchaf yno; ond cymerodd ail feddwl, ac ymryddhäodd, am ei fod yn tybied na buasai yn gallu cael chwareu teg i bregethu yr efengyl. Wedi dyfod i Aberdâr, cafodd ei hun yn nghanol cyfeillion ac edmygwyr, a bellach y mae meusydd yn ymagor yn ëang o'i flaen ac ar bob llaw, ac yntau yn ymdaflu â'i holl enaid i wasanaethu ei wlad a'i genedl yn y cylchoedd a ddymunai ac y gallai fod yn ddefnyddiol ynddynt. Mewn rhyw ystyriaethau, gellid dyweyd mai dyma'r adeg y dechreuodd fyw i bwrpas. Awyddai weithio, ond nis caniateid ef, Morganwg a agorodd y drws yn ehelaeth iddo.

"1859, Oct. 7th. Removed to Merthyr Tydfil to take charge of Panttywyll Chapel."

"Yr oedd y gair da oedd i Mr. Roberts yn Aberdâr wedi creu awydd cryf arnom yn y lle tywyll hwn i'w gymhell i fyw a llafurio fel Bugail yn ein mysg. Ni

  1. Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr, 1878.