Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chawsom siomedigaeth."[1] Dyma fel yr ysgrifenai Mr. W. Morris, un o ddiaconiaid y lle. Yr oedd bellach yn ei elfen ei hun, ac ymroddodd "o lwyrfryd calon" i gyflawni ei waith yn y gwahanol gylchoedd, ac yr oedd yn gymeradwy iawn. Yr oedd "arogl esmwyth" ar ei holl lafur gyda'r plant a'r rhai mewn oedran yn y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd darllen, a gwerthfawrogid Mrs. Roberts hefyd yn ei llafur yn eu plith. Dangosodd efe ei fod yn gwbl anhunanol a diariangar yn eu mysg, o herwydd pan fyddai yn gwasanaethu mewn lleoedd eraill, ni fynai dderbyn dim am yr amser hwnw gan y brodyr yn y Pant-tywyll. [2]

Yn Sir Forganwg yr oedd wedi syrthio ymhlith cyfeil!ion a brodyr oeddynt yn gallu adnabod ei werth, a rhoddi pob lle iddo. Fel y sylwasom, rhoddwyd lle rhwydd iddo i bregethu, ac yn 1861 dewiswyd ef gan y Cyfarfod Misol· i'w ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn groes i'r rheol—neu yn hytrach, yn ei achos ef, yn eithriad uwchlaw y rheol—oblegid y rheol ydoedd, fod i un bregethu am bum' mlynedd cyn cael ei ordeinio, ond nid oedd prin ddwy flynedd er pan gydnabyddasid ef yn rheolaidd. Cymerodd yr ordeiniad le yn Nghymdeithasfa Castellnewydd Emlyn.

"1861, Awst 7, Ordeiniwyd yn Nghymdeithasfa Castellnewydd."

Yr oedd eithriad arall hefyd yn y Gymdeithasfa hono, mewn cysylltiad â dewisiad un i'w ordeinio trwy ffordd a alwyd ar ol hyny yn y Deheudir wrth yr enw, "drws Arthur." Yn nghofnodau y Gymdeithasfa cawn fel y canlyn:—"Dydd Mercher y 7fed, yn Nghyfarfod y Pregethwyr (am hanner awr wedi 8 o'r gloch yn y bore),

  1. Mewn llythyr at yr Ysgrifenydd
  2. Rhagfyr 30ain, 1861, bu farw mam Ieuan Gwyllt yn Mhenllwyn, yn 67 oed.