Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddyddanwyd â'r brodyr a benodwyd i'w neillduo at waith cyflawn y weinidogaeth. Cyfarfod yr Ordeiniad am 9 o'r gloch. Enwau y brodyr a neillduwyd yw,—William Evans, Sir Benfro; David Wales, Daniel Williams, Thomas Davies, Thomas Thomas, Philip J. Walters, a T. James, M.A., Sir Gaerfyrddin; John Roberts a Thomas John, Sir Forganwg; Thomas Davies a Thomas Edwards, Sir Fynwy; David Williams ac Elias Jenkins, Sir Frycheiniog. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. H. Powell, America. Darllenwyd y rhanau arferol o'r Gair a gweddiwyd gan y Parch. O. Thomas, Llundain. Ymholwyd o barth rheoleidd—dra dewisiad y brodyr gan y Cadeirydd (y Parch. T. Edwards, Penllwyn), ac atebwyd yn gadarnhäol gan Mr. J. Havard, Meidrim. Traethwyd ar Natur Eglwys gan y Parch. D. C. Davies, M.A., Llundain. Gofynwyd y Cwestiynau gan y Parch. L. Edwards, M.A., Bala. Rhoddwyd y Cynghor gan y Parch. E. Matthews, Eweny. Dybenwyd trwy weddi gan y Parch. W. Lewis, Cassia."[1] Wedi cael ei gadw yn hir cyn dechreu, ar ol cychwyn, esgynodd Ieuan Gwyllt yn gyflym i'w safle deilwng fel Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

Yr oedd y gwaith yn awr yn pentyru ar ei ddwylaw o bob cyfeiriad. Yn Mawrth, 1861, dechreuodd y Cerddor Cymreig ymddangos, yr hwn a gyhoeddai yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun am y pedair blynedd cyntaf. Y flwyddyn hon hefyd, dechreuodd Undebau Canu Cynnulleidfäol godi eu penau mewn llawer o ranau o'r wlad, a gelwid arno yn fynych iddynt, ac i ddarlithio neu bregethu. Yn Mehefin 29ain, 1861, cawn ef yn tystio[2]:—"Hwyrach na chredwch fi, ond y gwirionedd plaen a dilen ydyw, cydrhwng fy nyledswyddau gweinidogaethol yma ac mewn manau eraill, yr Undeb Canu Cynnulleidfäol yma ac mewn

  1. O'r Drysorfa, Hydref, 1861.
  2. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.