Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dosbarthiadau eraill, y cyfarfodydd llenyddol a'r mân Eisteddfodau, ynghyd ag ysgrifenu yr oll o'r Cerddor—fel yr wyf wedi gorfod, er pan y cychwynodd yr wyf yn mwy na hanner lladd fy hun gan waith." Yn nechreu haf 1862, cawn ef ar daith gerddorol yn Meirionydd a Lleyn, ac ysgrifena[1]:— "Y mae y pryder a'r prysurdeb mewn cysylltiad â'n Cymdeithasfa yn Merthyr,—beirniadu dros 300 o wahanol gyfansoddiadau mewn rhyddiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, &c., at Eisteddfodau y Pasg—wyth nos oddicartref ar daith trwy ran o Sir Frycheiniog—ac yn uniongyrchol ar ol hyny, yr oedd yn rhaid i mi gychwyn i'r daith hon, y mae yr holl bethau hyn, trwy ddilyn eu gilydd mor agos, wedi fy ngadael heb nemawr ddim amser i mi fy hunan." Dengys hyn i ni ei fod yn llafurio yn galed, ac yn cael llonaid ei ddwylaw o waith. Yn nechreu y flwyddyn hon hefyd yr ydym yn ei gael yn brysur gyda chyfieithu ei Lyfr Tonau i'r Tonic Sol-ffa,—cyfundrefn ag yr oedd efe bellach wedi dyfod i adnabod ei buddioldeb, ac yn ei defnyddio i ddysgu elfenau cerddoriaeth i'r plant. Yn 1863 cawn ef ar daith gerddorol drwy Sir Gaerfyrddin, ac un arall drwy Sir Fôn, ar wahoddiad cynhes y Cyfarfod Misol; ac yn niwedd y flwyddyn hon fe basiodd arholiad am y Dystysgrif Elfenol a'r Dystysgrif Intermediate yn y Tonic Sol-ffa. Yr arholydd ydoedd ei hen ddysgybl a'i gyfaill Mr. E. Roberts, Liverpool, ac ymddangosodd ei enw wedi pasio yn y Cerddor Cymreig, Ionawr 1864. Yn y flwyddyn 1864, ymddangosodd ei Lyfr Tonau yn y Tonic Sol-ffa, ac yr ydym yn cael hysbysiad am draethawd ar Gerddoriaeth dan yr enw Aberth Moliant, ond nis gwyddom a ddaeth y traethawd hwn byth allan o'r wasg. Y mae yn awr, hefyd, yn dechreu cael y gwaith o arholi efrydwyr am Dystysgrifau yn y Tonic Sol-ffa, ac ymddengys enwau

  1. Mewn llythyr at Mr. E. Roberts, Liverpool.