y rhai a basiwyd ganddo yn y Cerddor Cymreig o fis i fis, am flynyddoedd, ac nid oedd neb yn Nghymru, mae yn debyg, wedi arholi cynifer o ddysgyblion âg ef. Fel hyn, yr oedd yn ymroddi o ddifrif i weithio, ac nid arbedai ei hunan yn y gwaith.
Teimlai ef a Mrs. Roberts nad oedd tref fyglyd Merthyr yn lle cysurus i fyw ynddi, a theimlai awydd symud, er nad oedd dim mewn un modd yn anghysurus yn y cysylltiad rhyngddo ef â'r achos yn y Pant-tywyll. Cafodd alwad o Ddowlais (1865—o eglwys Hermon, mae'n debyg), ac yr oedd efe yn hoff iawn o gyfeillion Dowlais; ond teimlai Mrs. Roberts y buasai Dowlais yn llawn mwy anghysurus i fyw ynddo na Merthyr, ac os oedd modd iddynt fyw yn Merthyr ac iddo weinidogaethu yn Nowlais, yr oedd yn foddlawn. Ond ni theimlai efe y byddai hyny yn iawn, ac nid oedd ei ogwyddiad yn gryf iawn am fyned yno. Tua'r un adeg daeth galwad arall o Lanymddyfri; ac yr oedd y lle hwnw, ymysg pethau eraill, yn nês i'w hen gartref, ac yr oeddynt ill dau wedi cyttuno i gydsynio â'r cais. Un boreu, ar frecwast, gofynai Mrs. Roberts iddo a ydoedd wedi ateb cyfeillion Llanymddyfri. "Nac wyf, yn wir," meddai; "rhaid i mi wneyd heddyw, a dylaswn fod wedi gwneyd yn gynt." Cyn hir daeth y post i mewn, a chydag ef lythyr, yr hwn, wedi ei ddarllen, y galwai sylw Mrs. Roberts ato. "Welwch chwi, Jane, dyma beth digon rhyfedd;" a darllenai y llythyr iddi, yr hwn a gynnwysai alwad oddiwrth eglwys Capel Coch, Llanberis. Yr oedd hyn yn newid y cwestiwn, a dywedai wrth Mrs. Roberts ei fod yn meddwl nad anfonai atebiad i Lanymddyfri y dydd hwnw. Pan ofynai hi pa le oedd Llanberis, dywedai, "Y lle prydferth hwnw yn Sir Gaernarfon yr oeddych chwi yn tybied y dymunech fyw ynddo." Fel gŵr doeth, gwnaeth ymholiad manwl ac ymgynghoriad ynghylch y lle; ac wedi ystyriaeth briodol, penderfynodd roddi atebiad cadarnhäol