Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gais yr eglwys yn y Capel Coch, a gwnaeth hyny. "Ar ei ymadawiad o Pant-tywyll i fyned i Lanberis, gwnaethpwyd tysteb iddo, nid er ei anfon ymaith, fel y dywedir fod rhai yn gwneyd, eithr oddiar wir barch iddo."[1]

"1865, August 29th. Removed to Llanberis to take charge of the church at Capel Coch."

Nid oes unrhyw reswm neillduol i'w roddi paham y meddyliodd yr eglwys hon am alw Ieuan Gwyllt yn weinidog iddynt, ond eu bod ar y pryd wedi cael ar eu meddyliau alw am un i'w bugeilio, ac wedi bod yn edrych o'u hamgylch am un cymhwys, ac fe ddichon, trwy ryw gyfrwng neu gilydd, wedi dyfod i ddeall ei fod ef yn agored i symud. Trwy rywbeth digon anesboniadwy, yr oedd yntau yn meddu tuedd gref i ddyfod i'r Gogledd; ac yr oedd hyny yn beth rhyfedd, oblegid yr oedd y nifer mwyaf o lawer o'i gyfeillion a'i gydnabod yn y Deheudir. Trwy gydgyfarfyddiad y ddau beth hyn, aeth yn briodas rhyngddo ef ac eglwys y Capel Coch, a thybiwn mai priodas ddedwydd iawn a fu am yr adeg y parhäodd, er fe ddichon nad heb ryw ofidiau, mwy na phob priodas arall. Wedi myned yno, efe a ymroddodd yn ddifrifol i gyflawni holl waith y weinidogaeth yn ffyddlawn, a gwnaeth hyny. Cawn sylwi mewn lle arall arno yn ei lafur fel Gweinidog a Bugail, ac felly nid oes eisieu i ni ymhelaethu yma, ymhellach na dyweyd y cofir am dano gydag anwyldeb mawr gan yr eglwys yn y Capel Coch, ac y teimlir parch o'r dyfnaf i'w goffadwriaeth o herwydd ei lafur dyfal yn eu plith. Yr anfantais fwyaf yr oedd yn llafurio dani i fod yn effeithiol ydoedd swm ei lafur mewn cylchoedd eraill, yr hyn ni leihäodd, eithr yn hytrach a gynnyddodd wedi ei symudiad i Lanberis.

  1. Llythyr Mr. W. Morris.