Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn y Gymanfa Gyffredinol yn Abertawe yn 1864, etholwyd ef yn aelod o Bwyllgor Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd; eithr y mae yn debyg mai wedi ei ddyfod i Lanberis y daeth pwysau y gwaith mewn cysylltiad â'r Llyfr Hymnau hwnw yn helaeth iawn arno ef, fel y cawn sylwi eto. Teithiai lawer iawn, yn enwedig gyda cherddoriaeth, ac yn ngwanwyn 1866 cychwynwyd, yn benaf trwy ei lafur ef, Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri—rhywbeth ar yr un cynllun ag Undeb Cerddorol Dirwestol Gwent a Morganwg; a dygwyddodd i ni fod yn bresennol mewn dau o'r rehearsals ar gyfer y Gymanfa yr haf hwnw, pryd yr elai efe i ymweled â'r corau, ac i'w parotoi ar gyfer y Gymanfa. Rhoes yr undeb hwn symbyliad pwysig i ganu corawl a chynnulleidfäol yn Arfon, ac y mae yn debyg nad oedd Arfon erioed wedi clywed cystal a chàn goethed canu ag a gafwyd trwy yr Undeb hwn. Efe fu yn arwain yn yr holl gymanfäoedd ond un, a chostiai lafur mawr iddo ef i fyned o amgylch gyda'r rehearsals. Y flwyddyn ganlynol cychwynwyd Undeb cyffelyb yn Sir Feirionydd, dan yr enw Undeb Cerddorol Dirwestwyr Ardudwy, a chynnaliwyd y gylchwyl gyntaf yn yr haf 1868, ymha un yr oedd efe yn arweinydd, yn gystal a'r un ddilynol. Yn 1869 cychwynwyd Cerddor y Tonic Sol-ffa ar ei ben ei hun, ac yr oedd ganddo bellach ddau Gerddor i ofalu am dano bob mis.

Cafodd dderbyniad cynhes yn Sir Gaernarfon gan ei frodyr ymhob cylch; yr oedd ei safle a'i ddylanwad fel eerddor yn rhoddi hawl iddo i le blaenllaw, a chafodd hyny yn ddirwystr, ac ymdaflodd yntau â'i holl galon i weithio gyda holl symudiadau ei Sir fabwysiedig, yn gerddorol, yn foesol, yn wladol ac yn grefyddol.

Yr oedd tymmor ei arosiad yn Llanberis yn dymmor o gynnydd mawr ar y lle, ac aeth y Capel Coch yn fuan yn rhy fychan, a phenderfynwyd adeiladu capel helaeth arall