Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn rhan o'r lle yr oedd adeiladu yn myned ymlaen yn gyflym. Gwnaed y capel yn bur helaeth, yn dangos tipyn o ffydd, a chraffder i weled i'r dyfodol; agorwyd ef dan yr enw Gorphwysfa yn 1867, ac erbyn hyn y mae wedi myned yn rhy fychan.

Wedi bod yn cynnal "pwys y dydd a'r gwres" fel hyn am tua phedair blynedd, a theimlo fod y gwaith llenyddol a cherddorol yn ormod iddo allu gwneyd cyfiawnder â bugeiliaeth eglwysig, penderfynodd o'r diwedd roddi gofal eglwys y Capel Coch i fyny, a gwnaeth hyny yn nechreu y gwanwyn, 1869. Prynodd brydles am ugain mlynedd ar y Fron ger Caernarfon, ac yr oedd wedi bwriadu ac wedi trefnu i dalu ymweliad âg America am chwe' mis, cyn dechreu ymsefydlu yn ei gartref newydd.

"1869. Symudodd i'r Fron ger Caernarfon."

Palasdŷ bychan prydferth anghyffredin, yn llygad yr haul, ar ael bryn tua dwy filldir o Gaernarfon i'r de—orllewin, ydyw y Fron. Nid yw ymhell o gulfor y Menai, ond fod y bryn bychan sydd wrth ei gefn cydrhyngddo a hi: ond esgyn i ben hwnw, ceir golygfa ëang ar y môr, y Menai a Môn. O flaen y palasdŷ hwn, tua'r dehau, y mae mynyddoedd ardderchog yr Eryri, gyda'r Wyddfa megys brenin arnynt, yn gorwedd fel panorama; ar y dde gwelir cyrion cymydogaeth boblogaidd Talysarn; ar gyfer y mae Rhostryfan a'r Waenfawr; ac ar yr aswy y mae Llanberis a Llanddeiniolen. Y mae safle y Fron, ynghyd a'r golyg feydd prydferth a geir o hono, yn ei wneyd yn nodedig o ddymunol, mewn lle tawel a heddychol, eto yn sefyll uwch ben, neu o flaen byd poblogaidd a phrysur. Prin y gallai dyn ddymuno paradwys fwy hapus ar y ddaear. Hwyrach mai yr unig anfantais ynddo ydoedd ei fod yn bell o bob railway station; ond y mae yn anmhosibl o'r bron gael.