Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mangre heddychol y dyddiau hyn heb fyned i bellder felly. Yma y treuliodd Ieuan Gwyllt yr wyth mlynedd olaf o'i fywyd, yn nghwmni Mrs. Roberts, ac yn mwynhâu ystranciau y "ci du," o'r hwn yr oedd yn bur hoff. Wedi bod ar daith galed yn y Deheudir, neu un o Siroedd y Gogledd, yma y dychwelai i dawelwch i orphwys; ac yma mewn llonyddwch yr ysgrifenai lawer iawn. Bron na theimlwn yn falch ei fod wedi cael treulio nawnddydd ei fywyd llafurus mewn lle mor brydferth a dedwydd.

Ond nid yw y melus i'w gael heb y chwerw, ac nid yw pethau dedwyddaf y byd i'w cael heb brofedigaethau. Wedi symud i'r Fron, a threfnu pethau yno, cyfeiriai ei feddwl tua gwlad y Gorllewin, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano yno. Cymerodd ei bassage o Liverpool, aeth i daith Sabbothol ar ei ffordd tuag yno, ffarweliodd â Mrs. Roberts am chwe' mis; ond, "nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi." Daeth o'i gyhoeddiad Sabbothol i dŷ Mr. W. Griffith, Stryd y Llyn, Caernarfon, nos Sabboth, i fod yn barod i gychwyn gyda'r train boreu drannoeth, ond yno teimlodd yn wael iawn; a dydd Llun, yn lle cychwyn i'r America, bu raid troi yn ol mewn cerbyd i'r Fron. Cafwyd fod yr afiechyd yn ymosodiad peryglus o'r pleurisy, ac am dymmor ofnai bron gael byw. Dadganai wrth Mrs. Roberts ei fod wedi meddwl cael byw gyda hi am ugain mlynedd yn y Fron, ond yr ymddangosai nad hyny oedd ewyllys ei Dad nefol; er hyny ymostyngai yn dawel i'w ewyllys. Ni phryderai ddim am ei gyflwr ei hunan, ond teimlai wrth feddwl gadael ei waith ar ei ganol, a'i gadael hithau yn unig; ond os oedd ei Arglwydd yn galw am dano, yr oedd yn berffaith foddlawn i ufuddhâu. Fodd bynag, yr oedd yn deall arwyddion ei afiechyd yn dda; ac erbyn un boreu yr oedd yn gallu dyweyd wrth y meddyg ei fod yn troi ar wella, a dyna fu y canlyniad. Ond wedi cael ei ddyrysu fel hyn gan Ragluniaeth i dalu ei ymweliad