Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

âg America, rhoddwyd y bwriad hwnw o'r neilldu yn hollol ac am byth.

Wedi gwella yn araf, ac ar ol maith wendid, dechreuodd ymaflyd drachefn yn ei waith. Parhaodd i olygu y Cerddor Cymreig hyd ddiwedd 1873, a Cherddor y Tonic Sol-ffa hyd ddiwedd 1874—yr adegau y rhoddwyd hwynt i fyny o ddiffyg cefnogaeth. Ar gais Pwyllgor y Goleuad, ymgymerodd â golygiaeth y papyr hwnw o Gorphenaf 1, 1871, hyd Ebrill 30, 1872, a llafuriodd yn galed, yn galed iawn. Ysgrifenai bob wythnos y nodiadau wythnosol, ac yn fynych ddwy, ac weithiau tair o ysgrifau golygyddol, heblaw golygu y gohebiaethau, ac ysgrifenu weithiau ar ryw faterion eraill iddo. Llafuriai o ddechreu 1871 hyd ei farwolaeth gyda Chyfarfodydd Ysgolion Dosbarth Caernarfon, y rhai a gynnelid bob dau fis, a chymerai drafferth fawr i barotoi ar gyfer y cyfryw. Yn 1874 yr oedd Mri. Moody a Sankey yn Ysgotland a Liverpool, ac aeth i'r manau hyny amryw weithiau i wrando arnynt a chymdeithasu â hwynt, a llanwyd ei ysbryd yn helaeth iawn o ysbryd y diwygiad hwnw; a gwelid ei ôl yn amlwg yn ei weinidogaeth a'i ymdrechion gyda'r canu cynnulleidfäol, mewn dwyseidd—dra a difrifoldeb. Gellid meddwl fod ei holl fryd ar gael dynion i brofi pethau mawr yr efengyl. Yn niwedd 1874, a 1875–76, yr oedd wrthi yn ddyfal yn cyfieithu emynau Mr. Sankey—Swn y Juwbili, a dysgwyliai i'r cynnulleidfäoedd eu mabwysiadu a'u canu gyda difrifoldeb; ac nid eu canu yn ddiystyr, yn yr hyn ni chafodd ei ddymuniad ond i raddau bychan. Llafuriai lawer gyda chymanfäoedd canu cynnulleidfäol, ac efe fyddai yn arwain ynddynt bron ymhob rhan o'r wlad. "Teimlem fod ei gymdeithas a'i gyfarfodydd yn foddion o ras i ni bob amser. Cafodd gymanfäoedd nodedig o hapus yn 1876 drwy yr holl wlad o'r bron, ac adroddai wrthym gyda blas ac hwyl nefolaidd