Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am y dylanwad yr oedd y canu wedi ei gael arno.[1] Yr oedd yr addfedrwydd hwn yn ei ysbryd fel pe yn ei barotoi yn ei flynyddoedd diweddaf ar gyfer yr hyn oedd i ddyfod. Dywedai un tro wrth Mrs. Roberts ei fod yn meddwl, pe cawsai ddeng mlynedd yn ychwaneg o oes, y buasai wedi gorphen ei gynlluniau; "ond," meddai, "y mae llawer yn y dyddiau hyn yn cael eu tori i lawr ar ganol eu gwaith." Ac yr oedd felly fel pe buasai yn dysgwyl i'r alwad ddyfod, ac yn foddlawn os hyny oedd ewyllys Duw. Yr oedd y Fron yn gartref cysurus iawn, ond teimlai fod y lle yn fawr, ac yn rhoddi mwy nag a ddymunai o gyfrifoldeb ar ysgwyddau Mrs. Roberts i fod ynddo ei hunan; ac yr oedd yn cadw ei lygad yn agored i edrych a allai gael lle bychan cysurus i'w gosod ynddo. "A fuasech chwi yn hoffi myned i'r Deheudir eto?" meddai Mrs. Roberts wrtho un diwrnod. "Na, nid wyf yn meddwl myned o Arfon byth mwy i fyw," oedd ei atebiad. Yr oedd wedi ymgartrefu yn hollol gyda'i frodyr yn Arfon, ac yn cael fod y rhan hono o'r wlad yn fanteisiol a chyfleus iddo. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth ysgrifenodd erthygl ragorol i'r Traethodydd ar "Fywyd ac Anllygredigaeth; a dywedai mewn llythyr at y Golygydd ei fod yn bwriadu dilyn ymlaen mewn ysgrif neu ddwy arall. Yr oedd ei feddwl yn ymwthio tuag angeu a'r bedd a'r pethau olaf. Yn niwedd mis Ebrill, 1877, bu ar daith drwy ranau o Sir Forganwg, a diweddai mewn cymanfa gerddorol yn nghapel y Cwm, Llansamlet, yr 2il o Fai. "Cafodd ganu bendigedig yno, yn enwedig ar yr hen anthem, 'Y cyfiawn drig yn y nef.' Collodd yr arweinydd arno ei hun, ac fe waeddodd allan, 'Braidd nad oes arnaf chwant bod yno.'"[2] Yr oedd wedi trefnu i fod gartref y Sabboth, Mai 6ed, cyn

  1. Alaw Ddu mewn ysgrif yn y Cylchgrawn, Ionawr 1878.
  2. Alaw Ddu yn y Cylchgrawn, Ionawr, 1878.