Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cychwyn i daith arall yn y Deheudir,; a mynwyd ganddo bregethu yn nghapel bychan Penygraig, lle yr hoffid ef yn fawr, ac y llafuriai yn ddyfal gyda hwynt, er nad oedd unrhyw gysylltiad bugeiliol rhyngddo ef a hwynt. Pregethodd ar y testun, "Y gelyn ddiweddaf a ddinystrir yw yr angeu;" ac yr oedd rhywbeth rhyfedd yn y bregeth hono. Nos drannoeth, nos Lun, yr oedd yno society, wedi ei rhoddi er mwyn ei gael ef yn bresennol, ac yn y society hono ymddyddenid am fater y bregeth; ac aed i son am hen grefyddwyr oeddynt wedi myned i'r nefoedd, a gwnaed hyny gyda chryn dipyn o flas, fel y dywedodd efe, "Yn wir, braidd nad wyf y fynyd hon yn teimlo hiraeth am gael bod gyda hwynt." Dydd Mawrth yr oedd pob peth yn barod, ac yntau wedi ymwisgo i fyned at y train i gychwyn i'w daith, ond am ei fod wedi cael anwyd trwm, perswadiwyd ef i aros hyd ddydd Mercher; ond erbyn y diwrnod hwnw yr oedd congestion of the lungs wedi ymaflyd ynddo, ac mewn cysylltiad â hyny congestion of the brain, fel yr aeth waethwaeth. Yn ei glefyd ymddyrysai, ond yn arwain y canu neu yn pregethu y ceid fod ei feddwl o hyd; a nos Lun, Mai 14, 1877, am 9 o'r gloch yn yr hwyr, ehedodd ei ysbryd at ei Waredwr, lle y cenir "Cân Moses a chân yr Oen."

Fel hyn y gorphenodd y llafurus Ieuan Gwyllt ei yrfa, yn nghanol ei waith. Tarawodd y newydd am ei farwolaeth fel taranfollt ar Gymru oll. Trannoeth yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac ni welwyd ffair gyffelyb yr oedd y newydd wedi difrifoli meddyliau pawb, a thestun yr holl siarad oedd am dano ef. Ac yr oedd bylchau lawer wedi eu rhwygo yn wag yn ei farwolaeth. Dysgwylid ef i Liverpool i'r Gymanfa Gyffredinol yr wythnos hono, ond yn lle hyny y bedd a barotoid iddo. Yr oedd cymanfäoedd canu cynnulleidfäol, a Chymanfa Ysgol Sabbothol yn dysgwyl am dano mewn amrywiol barthau y wlad, ond gadawodd y