Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwbl ar alwad ei Arglwydd i ymuno â "chymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntafanedig."

Claddwyd ef yn mynwent brydferth Caeathraw y dydd Sadwrn canlynol, Mai 19eg. Darllenwyd a gweddiwyd, a dywedwyd ychydig eiriau cyn cychwyn gan y Parch. D. Rowlands, M.A., Bangor. Yna ffurfiwyd yn orymdaith. Yn gyntaf, cerbyd y meddyg, Dr. M. Davies, Caernarfon; wedi hyny y pregethwyr bob yn dri, yna y diaconiaid bob yn dri, ac ar ol hyny y cantorion bob yn bedwar; yna yr elorgerbyd, y galargerbyd, yn cynnwys Mrs. Roberts, y Parch. R. Roberts, Llundain, a Mrs. Pugh, eu chwaer, a cherbydau eraill, o ba rai yr oedd lliaws mawr. Araf deithiodd yr orymdaith o'r Fron drwy Gaernarfon hyd Gaeathraw, a'r cantorion yn canu emynau oedd wedi eu hargraffu at yr achlysur. Y tônau a'r emynau a ganwyd oeddynt Gwladys, emyn 894; Moab, emyn 851; Liverpool, emyn 852; a Lausanne ar yr emyn 731. Wedi cyrhaedd Caeathraw nid oedd o un dyben meddwl myned i'r capel, gan na chynnwysai chwarter y dyrfa fawr oedd yn bresennol; felly, wedi rhoddi y corff yn y bedd, cymerwyd yr arweiniad gan y Parch. D. Morris, Bwlan. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. R. Ellis, Ysgoldŷ, yna anerchwyd y dyrfa gan y Parchn. D. Saunders, Abertawe; D. Davies, Abermaw; Rees Jones, Felinheli; G. Jones, Tre'rgarth; J. Lewis, Caerfyrddin; a James Donne, Llangefni, yr hwn hefyd a ddiweddodd trwy weddi. Nis gwelsom fwy o ddwysder a theimlad mewn un gladdedigaeth erioed, ac yr oedd llïosogrwydd y dyrfa yn dangos mai nid un cyffredin oedd yn cael ei roi yn y bedd. Yr oedd y diwrnod yn anfanteisiol iawn; er hyny yr oedd o leiaf o driugain i ddeg a thriugain o weinidogion yn bresennol, a thyrfa fawr o ddiaconiaid a cherddorion—rhai o honynt wedi dyfod o bell ffordd, megys Dr. J. Parry (Pencerdd America), Aberystwyth; W. Julian, Aberystwyth; J. Spencer Curwen,