Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llundain; D. Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth; J. Thomas, Blaenanerch; J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd), Caernarfon; ac O. Griffith (Eryr Eryri), Waenfawr. Cafodd gladdedigaeth tywysog, ac yr oedd yn dywysog mewn gwirionedd. Pregethodd y Parch J. Lewis, Caerfyrddin, bregeth angladdol iddo yn nghapel Engedi, Caernarfon, y dydd canlynol, sef y Sabboth, am 2 o'r gloch, ac yn nghapel Penygraig am 6 o'r gloch yn yr hwyr.

Wedi ei golli, a'i golli mor sydyn, ymddangosai Cymru oll wedi ei tharaw â syndod, ac fel pe yn awyddus i ddangos ei pharch i'w goffadwriaeth. Cyfansoddwyd Requiem goffadwriaethol iddo gan y Dr. Parry, Aberystwyth, ar eiriau o waith Mynyddog, yr hon a ddaeth yn boblogaidd iawn. Cyfansoddwyd un arall hefyd gan Mr. W. T. Rees (Alaw Ddu), a thrydedd gan Mr. J. H. Roberts (Pencerdd Gwynedd). Tybid fod teimlad y wlad yn addfed i wneyd rhyw goffadwriaeth o barch i'w enw, mewn math o ysgoloriaeth gerddorol. Cymerodd y Parch. D. Saunders y gwaith mewn llaw, ac wedi llawer iawn o drafferth, ac ysgrifenu cannoedd o lythyrau, o'r diwedd penodwyd pwyllgor cyffredinol, un i'r Gogledd ac un i'r Deheudir. O herwydd nad oedd bron neb ond Methodistiaid wedi ateb cwestiynau Mr. Saunders, gwelwyd yn oreu ei gwneyd yn enwadol i'r Methodistiaid. Ond rywfodd, wedi penodiad y pwyllgorau nid oes nemawr ddim wedi cael ei wneyd. Nid ein lle ni yma yw myned i wneyd esgusawd, ond yn hytrach cofnodi ffeithiau; er hyny ni a gredwn ei bod yn ffaith fod teimlad. dwfn yn mynwesau cannoedd a miloedd yn Nghymru o barch i goffadwriaeth Ieuan Gwyllt, eto ar yr un pryd mai ychydig sydd wedi cael ei wneyd gyda'r ysgoloriaeth hon. Mae rhyw ddrwg yn rhywle, ond rhaid cydnabod fod Mr. Saunders wedi llafurio dros fesur i'w rhoddi ar dir i gychwyn.

Yn nechreu haf y flwyddyn hon (1879) penderfynodd