Mrs. Roberts, gweddw Ieuan Gwyllt, godi cofadail ar ei fedd. Gwnaed hyny yn ddystaw, a didwrw, a bu agos i'r amgylchiad fyned heibio heb i'r cyhoedd wybod am dano. Pan ddeallwyd, fodd bynag, yr hyn oedd yn cael ei wneyd, gan nad oedd cyfeillion Ieuan Gwyllt wedi cael rhan yn y feddgolofn, dymunwyd am gael cyfarfod cyhoeddus i'w dadorchuddio, ac â hyn cydsyniodd Mrs. Roberts. Cafwyd y cyfarfod hwn ddydd Gwener, Mehefin 6ed. Yr oedd emynau wedi eu hargraffu, a nifer mawr iawn o gantorion a chyfeillion o lawer o fanau wedi dyfod ynghyd, a bernid fod yno tua dwy fil o bobl yn bresennol. Llywyddwyd gan Lewis Lewis, Ysw., Quellyn, Caernarfon, ac wedi anerchiad rhagymadroddawl byr, galwodd ar Miss Keeling, Juvenal Street, Liverpool (cyfnither i Mrs. Roberts wedi dyfod yno i'w chynnrychioli), yr hon a ddaeth ymlaen. ac a ddadorchuddiodd y golofn. Yr oedd y corau dan arweiniad y Dr. Parry, Aberystwyth, a chanwyd y dôn Ardudwy (I. Gwyllt), Emyn 742; anthem, "Par i mi wybod dy ffyrdd," (D. Harries. Trefniad I. Gwyllt); Liverpool (I. Gwyllt), Emyn 852; Esther (I. Gwyllt), Emyn 902; Requiem (Dr. Parry); Moab (I. Gwyllt), Emyn 851; a'r Hen 50ain. Anerchwyd y dyrfa gan y Parchn. J. Lewis, Caerfyrddin; T. Gwynedd Roberts, Rhostryfan; D. Saunders, Abertawe; ac Evan Jones, Caernarfon+Mr. Roberts a Mr. Jones fel cynnrychiolwyr wedi eu penodi gan Gyfarfod Misol Arfon. Yr oedd y cyfarfod yn llïosog, yr anerchiadau yn rhagorol, ond y canu yn gymedrol. Y mae y golofn wedi ei gwneyd o wenithfaen coch Aberdeen, ac yn un droedfedd ar bymtheg o uchder, ac yn ymddangos yn golofn ardderchog fydd am oesoedd yn addurn i fedd Ieuan Gwyllt. Ar yr ochr nesaf at y llwybr y mae y canlynol wedi ei gerfio a'i oreuro,