Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

EI LAFUR, FEL CERDDOR, LLENOR, A GWEINIDOG YR EFENGYL.

WRTH edrych dros ei hanes, gwelir fod y pum' mlynedd ar hugain olaf (o 1852—77) wedi bod yn dymmor o lafurio ar ran y cyhoedd—dyma'r dydd gwaith. Ac er nad ydoedd ond dydd byr mewn cymhariaeth, eto llafuriodd yn ddyfal a diflino ar hyd yr amser hwn, ac y mae yn debyg nad oes odid i neb wedi cael dychymyg clir am fawredd swm y gwaith a gyflawnwyd ganddo, heb son am ragoroldeb ei natur. Yn y bennod hon yr ydym yn bwriadu rhoddi golwg mor gryno ag y gallwn ar y llafur hwn, ynghyd a rhyw sylwadau ar ei natur. Manteisiol i hyn fydd edrych arno yn ei lafur fel CERDDOR, fel LLENOR, ac fel GWEINIDOG YR EFENGYL.

I. FEL CERDDOR. Wrth edrych ar ei lafur yn hyn, yr ydym yn cael dechreu gyda'r

1. Blodau Cerdd; cyhoeddiad misol cerddorol, gan John Roberts (Ieuan Gwyllt). 1852.

Dyma ei gyntafanedig a "dechreuad ei gryfder." Fel y sylwyd, yr oedd ychydig o dônau wedi eu hargraffu, ar ffurf pamphlets bychain wythplyg, yn Aberystwyth yn flaenorol, ond diammeu nad oedd hyny ond galw am ychwaneg o'r un peth. Yr oedd y dosbarthiadau cerddorol oedd wedi eu codi yma a thraw yn y cymydogaethau yn dangos fod eisieu rhyw gyfrwng i'w diwallu â cherddoriaeth, ac hefyd i fod yn llawlyfr i astudiaeth yn y gelfyddyd. Felly yr oedd yn amlwg y buasai rhywbeth i'r cyfeiriad hwn yn ddymunol, ond er hyny anturiaeth led bwysig oedd cyhoeddi llyfr