Tudalen:Ieuan Gwyllt.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

felly; ond nid oedd efe yn amddifad o gryn dipyn o ffydd yn ei gynllun, yr hyn sydd yn elfen bwysig mewn llwyddiant. Ni chyhoeddwyd ond saith rhifyn—y tri neu'r pedwar cyntaf wedi eu hargraffu gan D. Jenkins, Heol Fawr, Aberystwyth, a'r gweddill yn Llanidloes yn argraffwasg J. Mendus Jones. Ni a ddyfynwn y rhagymadrodd yn gyflawn i ddangos amcan y llyfr, ac hefyd i ddangos fel y mae y cerddor ieuanc yn wynebu ar y "cyhoedd," am y tro cyntaf ar ei gyfrifoldeb ei hun. "Blodau Cerdd. At ieuenctyd yr Ysgol Sabbothol. Serchus Gyfeillion,—Mae yn llawen iawn genyf gael cyfarfod â chwi ar faes hyfryd CERDDORIAETH; ac, er mai casglu 'Blodau' yw ein gwaith, hyderwn y bydd y rhai hyny y fath ag y bydd eu harddwch, eu perarogl, a'u tynerwch yn tueddu i feithrin ynom hoffder at yr hyn sydd wir brydferth, i buro ein chwaeth, fel y byddo llygredigaethau ein gwlad yn rhy ffiaidd genym eu harfer, ac yn effeithio ar ein serchiadau nes eu gwneyd yn rhy dyner i lid na chenfigen nythu o'u mewn, ac yn rhy wresog i ddim ond cariad a thangnefedd i anadlu yn eu hawyrgylch. Mae yn ddiau fod gan gerddoriaeth ryw ddirgel swyn dros y natur ddynol; a pha ryfedd? onid iaith y teimlad ydyw? a gwyddom yn dda, pan lefara y teimlad, fod effaith ryfeddol yn sicr o gael ei gynnyrchu. Mae cerddoriaeth, gannoedd o weithiau cyn hyn, wedi toddi holl serchiadau y galon ddynol, a'u bwrw yn un tryblith i'w mould ei hun, pa beth bynag a fyddai hyny. Ar brydiau, a llawer rhy aml, ysywaeth, cymerai feddiant o holl deimladau y milwr; toddai ac arllwysai hwynt yn ddylif tanllyd yn llonaid ei fynwes, nes ei hyrddio yn un eirias frwd i safn magnel ei elyn, ar faes y gwaed. O dduwies odidog! camddefnydd anfad arnat oedd hyn; a rhyfedd na buasit wedi cymeryd dy aden a chanu yn iach am byth i fro marwolion, am dy dreisio i gyflawni y fath erchylldra. Yr oeddwn y fynyd hon yn myned i wneuthur adduned i ti yn enw dyn-