Tudalen:Ifor Owen.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nemawr ddim syniad. A phwy all ddarlunio enaid merch a gynysgaeddwyd â'r athrylith uchaf, yr egwyddorion puraf, y serchiadau cryfaf, y ddysgeidiaeth oreu, a'r wybodaeth eangaf am ddynion a'r byd oedd yn bosibl i fwyafrif boneddigesaul yr oes honno? Digon yw dweyd nad oedd wahaniaeth ym mha gylch, nac ym mha gymdeithas yr ymddanghosai, cydnabyddid. hi, yn anymwybodol gan bawb fyddai yn bresennol, fel un oedd rywfodd ar wahan, ac uwchlaw y lleill oll.

Teimlai dynion yn ddieithriad pan yn ei chwmni ryw awydd am fod ar eu gore. 'Roedd rhywbeth yn ei phresenoldeb, ac yn enwedig yn ei hymddiddan, fyddai yn tynnu allan y gore. oedd ym mhawb o'i chwmpas. Meddai dalent arbennig i ddarganfod rhyw gymaint o ddaioni ym mhawb, hyd yn oed y gwaethaf o gymeriadau dynol. A phan y doi ambell greadur i'w phresenoldeb yn llawn o fwriadau a meddyliau anheilwng, teimlai naill ai yn rhy anaddas i aros gerllaw iddi, neu cyffesai yn ddifloesgni ei holl bechodau wrthi, ac erfyniai am ei chynhorthwy i fyw bywyd gwell.

Pan yn yr Yspaen, ni ddaeth Morgan Kyffyn a'i ferch i gyffyrddiad â'r un grefydd ond Pabyddiaeth, na'r un math of grefyddwyr ond Pabyddion rhonc. A chan mai Pabyddion oedd Morgan a'i wraig cyn gadael Cymru, nid oedd Delyth yn gwybod fawr am yr un grefydd arall nes y dychwelodd ei rhieni i wlad eu genedigaeth. Ond er iddi gael ei geni a'i magu ymysg y Pabyddion mwyaf selog yn y byd, ac er iddi gael ei haddysg, hyd ei euddegfed flwydd, yn un o'r lleiandai enwocaf yn Ewrob, ni erioed yn alluog i gredu holl honiadau y Babaeth hyd yn oed pan yn blentyn. Y fath oedd ei chariad cynhenid at wirionedd, nas gallai dysgeidiaeth Eglwys Rufain ond prin gyffwrdd â hanner anghenion ei meddwl, heb son am eu boddhau.

Pan dorrodd yr anghydfod allan rhwng y Senedd a'r Brenin, yr oedd yn cael ei hun yn ochri gyda'r Seneddwyr o'r dechreuad. Bu aml i ddadl frwd a chwerw rhyngddi a'i thad pan ddoi enwau Pym, a Hampden, a Chromwel ar y bwrdd. Galwai yr hen Forgan hwy yn "Bengryniaid d———g" Mynnai hithai mai arwyr rhyddid, a chyfeillion y bobl oeddent. A chan ei bod yn berffaith hyddysg yn hanes yr anghydfod o'r dechreuad, ac wedi darllen a meistroli y rhan a gymerwyd ynddo gan ddynion.