Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wallt gwyneu, i lawer gredu pan yn ei ymyl mai glaslanc ieuanc dibrofiad oedd. Yr oedd mor ddireidus, mor heulog ei wên, ac mor iachus ei chwerthiniad, fel yr oedd yn anhawdd ar y cyntaf sylweddoli y gallai gymeryd golwg sobr a difrifol ar unrhyw fater o bwys. Ond ar ol ei weld a'i glywed yn cymeryd rhan mewn dadl ar bwnc mawr y dydd, yr oedd braidd yn amhosibl i neb gredu y gallai gymeryd golwg ysgafn ar unrhyw fater.

Cyfarfyddodd Ifor Owain a Delyth Kyffyn â'u gilydd y waith gyntaf dan amgylchiadau tra eithriadol. Tua thair blynedd cyn agoriad ein stori, wedi iddi gymeryd rhan yng ngwasanaeth yr offeren yng nghapel bychan y Castell, lle'r ymgynullai nifer o deuluoedd Pabyddol yn wythnosol i'w fwynhau,—aeth Delyth a'i morwyn am dro i'r wlad. Yr oedd yn brynhawn hyfryd. ynghanol mis Mai. Nid oedd yn holl Gymru harddach golygfa na'r hon a ymdaenai o flaen llygaid yr ymdeithydd fyddai yn cefnu ar Casnewydd a'i wyneb ar Lanfaches yr adeg yma o'r flwyddyn.

Pan yn gadael y dref, nid oedd ym mwriad Delyth i fynd. ymhell, ond wedi dod i ganol yr heulwen, yr adar, a'r blodau, yr oedd yn anhawdd troi yn ol. Wrth ganfod mwynhad ei meistres o'r olygfa, y rhodfa, a'r prynhawn, daeth i feddwl: forwyn, nad cyfleusdra drwg fuasai y presennol i fynd mor bell a bwthyn ei mam, yr hon a breswyliai ar fin y ffordd o fewn dwy filltir i Lanfaches. Ar y cyntaf ofnai Delyth nas gallent gerdded mor bell, a dychwelyd heb flino gormod. Ond rhoddodd ffordd yn bur fuan i ferch wedi gwneyd ei meddwl i fyny i dreio gweld ei mam. A chyn hir iawn yr oeddent, ar ol teithio yn agos i saith milltir, yn mwynhau eu hunain wrth fwrdd yr hen Gymraes groesawgar, yr hon oedd bron gwirioni gan faint ei balchder wrth weld boneddiges mor urddasol â merch Cwnstabl y Castell dan ei chronglwyd. Gan fod y bwthyn wedi ei adeiladu ar ymyl y ffordd, clywid llais a swn traed pob teithiwr elai heibio, mor eglur a phe bai yn llefaru a symud yn yr ystafell nesaf. A chyn fod Delyth wedi bod yn hir yng nghadair fawr yr hen wraig, tynnwyd ei sylw gan nifer y teithwyr oedd yn mynd heibio'r drws.

"Oes rhywbeth neilltuol yn cymeryd lle yn y gymdogaeth yma heddyw?" gofynnai.

{{nop}]