Edrychai yr hen wraig yn bur anesmwyth, os nad yn ddychrynedig, ond ar ol oedi munud, atebodd,—
"Wel oes, Meistres Kyffyn, ac y mae arnaf ofn ei fod yn rhywbeth nas gelli di ei gymeradwyo!"
"Oes yna chware pêl, neu Wyl Mab Sant, neu ffair Sul rywle gerllaw?"
"Na, rhywbeth hollol wahanol i bethau felly sy'n cymeryd lle."
"A pham yr ydwyt yn meddwl nas gallaf fi gymeradwyo peth felly?"
"Cyfarfod crefyddol ydyw."
"A beth wnaeth i ti feddwl nas gallaf fi gymeradwyo cyfarfod crefyddol?"
"Maddeu i mi, Meistres, ofni yr oeddwn nas gallai Pabyddes mor selog a thi gymeradwyo cyfarfod a gynhelir yn yr awyr agored, gan bersonau a ddiarddelwyd gan yr awdurdodau, ac a gyhuddir o fod yn ddynion drwg, direol, ac yn elynion yr Eglwys."
"Wyt ti'n credu mai dynion drwg ydynt?"
"Nac ydwyf, Meistres Kyffyn."
Pwy ydynt ?"
"Y mae tri neu bedwar yn mynd i bregethu heddyw. 'Fallai i ti glywed fod ein hen Ficer parchus ni, Meistr William Wroth, wedi cael ei daflu allan o'i fywoliaeth oddiar y llynedd."
"Am beth?"
"O, am fynd o amgylch yr ardal a'r wlad i bregethu yr Efengyl i bobl sy'n byw heb obaith ac heb Dduw yn y byd."
"Ydwyt ti yn sicr na wnaeth e' ddim arall?"
"Ydwyf, Meistres Kyffyn. Y mae yn un o'r dynion gore yn yr holl fyd. Arfera ef fynd i bob rhan o'r wlad, er pan y ca's droedigaeth, i rybuddio dynion am eu pechodau, a cheisio eu troi at Iesu Grist."
"Er pan y ca's droedigaeth! Beth yw troedigaeth?
"Wn i ddim os gall hen wraig anwybodus fel y fi egluro ei ystyr i foneddiges fel y ti. Ond mi ddyweda'r hanes wrthyt fel y clywes i Meistr Wroth ei hun yn ei adrodd. Pan ddaeth e' yma o Rydychain yn ddyn ieuanc, er ei fod wedi ei ordeinio i fod yn 'ffeiriad, wyddai e' ddim am râs Duw yn ei galon, 'doedd e' erioed wedi sylweddoli mor bwysig oedd gwaith gweinidog Duw. Treuliai ei amser i fwynhau ei hun. Mynychai dai y cyfoethogion, a chymerai ran arweinydd ym mhob dawns, a chyfeddach,