Tudalen:Ifor Owen.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Fydd Meistr Wroth ei hun yn pregethu?"

"Wn i ddim fydd e'n pregethu, ond bydd yn ein hannerch, a chynorthwyir ef gan Henry Jessey o Loegr, a William Erbery, a Walter Cradoc o Lanfaches, a Vavasor Powel o Raiadr, a llawer ereill."

"Oes arnoch chi ddim gormod o ofn yr awdurdodau i feiddio cynnal cyfarfod o'r fath ar adeg pan y mae cynifer o bobl,-o bobl ore'r wlad,-yn cael eu herlid a'u carcharu a'u lladd ?" "Yr ydym yn llaw Duw."

"Ydych chi yn caniatau i unrhyw un fyddo yn ewyllysio ddod i'ch cyfarfod?"

"Nid yn unig yn caniatau, ond yn croesawu."

"Yr wyt wedi tynnu y fath ddarlun dyddorol o Meistr Wroth, ei waith a'i hanes, fel 'r'wi o gywreinrwydd am ei weld. Tebyg ei fod yn hen ŵr oedrannus erbyn hyn."

"Ydyw, y mae mewn gwth o oedran, ond y mae mor danllyd ag erioed pan yn pregethu."

"O'r gore. Daw Megan a finne i'r cyfarfod, i ni gael gweld a chlywed y dyn hynod hwn. Bydd gennym ddigon o amser i gerdded yn ol i'r Castell cyn nos. Ac os byddwn wedi blino gormod i gymeryd yr holl daith, cawn gerbyd ar hanner gair gan Syr Edward Morgan, Castell Pencoed."