Tudalen:Ifor Owen.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pennod III.

YR oedd Delyth Kyffyn wedi gweld llawer cynhulliad rhyfedd o bobl yn ei dydd, ac wedi gwrando ar lawer math o ddysgawdwyr yn egluro ac yn amddiffyn crefydd, ond ni ddychmygodd erioed y gallai weld a chlywed pethau fel y rhai y bu yn llygad a chlust dyst ohonynt yn y babell fawr ar gae Llanfaches y prynhawn Sul cyffrous hwnnw yn ei hanes.

Y peth a'i synnodd, yn gyntaf, ac yn fwyaf, oedd nifer a chymeriad y dorf. Yr oedd yno bobl o bob cyfeiriad, perthynol i bob dosbarth, wedi ymgynnull gyda phob math o amcanion. Safai nifer o Biwritaniaid gyda gwynebau sobr mewn agweddau difrifol a defosiynol dros ben mewn un gongl. Gerllaw iddynt. 'roedd nifer o goegwyr pefrynllyd mewn dillad lliwiog o wneuthuriad mympwyol ac ofnadwy. Rhai a'u cŵn yn eu canlyn; rhai yn arfog, a rhai yn hanner meddw, ac mewn ysbryd cecrus chwerylgar. Yr oedd yno hefyd lawer o bersonau o bwys a dylanwad yn y gymdogaeth wedi dyfod yno, i gael barnu drostynt eu hunain beth oedd daliadau ac amcanion y bobl wrol y clywsant cymaint am danynt yn y dyddiau hynny fel rhai oedd yn barod i wynebu pob math o erledigaethau, a dioddef pob math o golledion, yn hytrach na gwneyd dim yn groes i'w hargyhoeddiadau crefyddol.

Ymhlith y rhai hyn yr oedd llygaid Delyth Kyffyn wedi disgyn ar ddyn ieuanc a adnabyddai o ran golwg, a hen ŵr penwyn, barfwyn, tua thrigain oed. 'Roedd yn hawdd gweld oddiwrth eu gwynebau, yn ogystal a phob osgo o'r eiddynt, mai tad a mab oeddent. Telid parch mawr iddynt gan y sawl a'u cyfarchent, ac yr oedd yn hawdd gweld oddiwrth eu holl ymddygiad eu bod yn ddynion cyfrifol, ac o safle gymdeithasol uchel.

Tra'r oedd Meistres Delyth yn edrych yn edmygol ar ofal tyner y dyn ieuanc o'i dad, ac yn holi ei hun, dan ddylanwad deddf cysylltiad meddylddrychau, beth ddywedai ei thad pe gwyddai lle yr oedd ei ferch, syrthiodd distawrwydd mawr ar y