Tudalen:Ifor Owen.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyaf athrylithgar ei wlad a'i oes,—dynion anibynnol eu barn, eang eu syniadau, a phur eu moesau. Cyfrifid etifedd Neuadd Urien gan y rhai hyn fel eu harweinydd. Edrychent i fyny ato. a mabwysiadent ei olygiadau ar bron bob cwestiwn cyhoeddus.

Bu aml i ddadl boeth rhwng y tad a'r mab ar y cwestiynau hyn y flwyddyn gyntaf ar ol ei ddychweliad adref, ond yr oedd gan y dyn ieuanc y fath barch gwirioneddol i farn a gwybodaeth yr henafgwr, fel na chollent eu tymherau gan nad pa mor wrthwynebol eu golygiadau. Yr oeddent yn ddigon call i gytuno i anghytuno ar lawer pwnc; ond os byddai eu golygiadau arno yn wrthwynebol iawn, cymerent ef i fyny drachefn a thrachefn, a'r diwedd, fel rheol, fyddai i'r tad addef fod llawer mwy i'w ddweyd ar yr ochr nad arferai gredu ynddi nag a feddyliodd erioed. Wrth ddadlu a darllen fel hyn yn fynych am ysbaid, enillwyd y tad i gydnabod mai nid dynion drygionus a diegwyddor oedd arweinwyr y blaid a ddadleuai mor ffyrnig dros hawliau'r Senedd yn erbyn honiadau'r Brenin. Cydnabyddai hefyd y gallai fod egwyddor a chydwybod y tu ol i ymddygiad yr offeiriaid a wrthodasant, yng ngwyneb pob bygythiad, ddarllen y Llyfr Chwareuon yn eu heglwysi.

Ond os llwyddodd Ifor felly, trwy ddadlu cyson, i ennill cydsyniad ei dad â'i olygiadau beiddgar a blaenllaw, gwnaeth ei hun. yn wrthrych atgasedd y mwyafrif o scwierod ieuainc y gymdogaeth. I ddynion ieuainc na lwyddasant i gael mwynhad dyfnach o fywyd na'r hwn a geid trwy ddilyn cŵn hela, gloddesta, ymladd ceiliogod, chware cardiau, ac ofera, yr oedd dyn ieuanc o ddifrif, dyn ieuanc yn treulio ei amser hamddenol i ddarllen a myfyrio, yn ddirgelwch. Methent a'i ddosbarthu. Yr oedd fel bran wen ymysg brain cyffredin yr ardal. Chwarddai rhai am ei ben. Gwawdiai ychydig. Ond casheid ef gan y mwyafrif â châs cyflawn; a hynny nid yn gymaint am ei olygiadau gwleidyddol a chrefyddol, ond am y credent ei fod yn tybied ei hun gymaint yn uwch a gwell na hwy yn ei foesau.

Yr oedd gan etifedd Neuadd Urien gynifer o elynion o'r fath ymysg boneddwyr ieuainc ei ardal, fel y bu raid iddo arwain bywyd unig yn eu plith, bron er dydd cyntaf ei ddychweliad o Gaergrawnt. Wedi iddo dreulio rhyw dair blynedd o'r bywyd unigol a neilltuedig hwn, cymerodd tri digwyddiad le a adawodd. bob un ei argraff ar ei fywyd a'i gymeriad. Yn gyntaf, bu farw