ei fam yn sydyn, a gadawodd dystiolaeth eglur ar ei hol na buasai ganddi yr un pelydryn o obaith am fywyd tragwyddol oni bai iddo gael ei gynneu yn ei meddwl gan "Ganwyll" Ficer Prichard. Parodd hyn i Syr Urien erfyn ar y Diwygiwr tanllyd o Lanymddyfri ddod i weinyddu yn angladd ei briod. Cydsyniodd, a thrwy y cydsyniad cymerodd yr ail ddigwyddiad le, sef y cyfarfyddiad cyntaf rhwng Meistr Ifor Owain ac awdwr "Canwyll y Cymry."
O'r tri digwyddiad, cyfrifai ef ei hun mai yr olaf oedd y mwyaf parhaol ei ddylanwad ar ei fywyd. Cymerodd hwnnw le ymhen rhyw dri mis ar ol ymadawiad y Parch. Rhys Prichard. Yr oedd ar ei ymweliad blynyddol â Chaergrawnt. Swperai rhyw ddeg o'i hen gydfyfyrwyr ac yntau mewn ystafell hir-gul yn eu hen goleg. Yr oeddent yn ymddiddan plithdrafflith ar draws eu gilydd, fel y bydd nifer o ddynion ieuainc ysbrydlawn ar fin ymadael ar ol swper fwynhaol, pan yr agorwyd y drws ymhen. ucha'r ystafell gan ysgrifennydd y clwb, a daeth i fewn yng nghwmni myfyriwr gwahoddedig o Goleg Crist, ddyn cymharol ieuanc, y dyn ieuanc harddaf ei wynopryd ac urddasolaf ei ymddanghosiad a welodd Ifor yn ei fywyd. Sibrydodd rhywun mai enw yr ymwelydd oedd John Milton. Y munud y clywodd. Meistr Ifor ei enw, yr oedd yn llygaid ac yn glustiau i gyd. Clywsai am dano droion yn ystod ei fywyd myfyriol. Dywedid na fu y fath weithiwr caled yng Ngholeg Crist er pan yr adeiladwyd ef. Darllennai yn aml trwy'r nos, a byddai gyda'r myfyrwyr ereill yn ei ddosbarth bore drannoeth fel pe na chollasai funud o gwsg. Ni chymerai ran mewn unrhyw chware, ac ni ymunai âg unrhyw glwb na phlaid o fewn y lle. Coleddai syniadau gwreiddiol a beiddgar am bawb a phopeth, ac ni byddai yn petruso un amser i'w cyhoeddi. Dyna'r hanes a adawodd ar ei ol yn y Brifysgol, ond clywsai Meistr Ifor ei dad yn son am y dyn ieuanc, rhyfedd hwn mewn termau nad oedd yr hen ŵr yn eu defnyddio ond pur anaml. Fel un o wahoddedigion Arglwydd Raglaw Cymru yr oedd wedi clywed a gweld "Comus" Milton yn cael ei adrodd yng Nghastell Llwydlo,[1] ychydig flynyddau yn ol, a gwnaeth ei ddesgrifiad o'r dyn a'i farddoniaeth
effaith ddofn ar feddwl ei fab. Ac yn awr, wele Milton ei hun
- ↑ Ludlow.