a'r Pengrynwyr bron ym mhob sir yn Neheudir Cymru. Gwyddai, os byddai un o bleidwyr y Senedd mewn perygl, a phwy oedd yn cynllunio i'w erbyn, a beth oedd natur y cynlluniau. Gwyddai hefyd, yn well na neb arall, natur y ddealltwriaeth a fodolai rhwng arweinwyr y Teyrngarwyr Cymreig a Rupert ynghylch pa fodd, pa bryd, a pha le i ddechreu gweithredu pan gyrhaeddai y ddadl rhwng y Brenin a'r Senedd y pwynt a'i gorfodai i wrthdaro.
Fel y cyfeiriwyd, yr oedd yn ddyledus am y rhan fwyaf o fanylion y wybodaeth helaeth hon i gymeriad arbennig,—i Wil Pilgwenlly. Yr oedd Wil yn gymeriad mor eithriadol fel y mae yn rhaid i ni geisio rhoi desgrifiad o hono. O ran ymddanghosiad personol, yr oedd yn hollol anesgrifiadol. Byddai yn ormod gorchwyl i'r sylwedydd mwyaf craffus allu dweyd pa un ai dyn ieuanc ynte hen ŵr ydoedd. Llefarai ambell waith gyda'r fath wybodaeth a doethineb, nad oedd dim ond henaint a phrofiad fedrai roddi cyfrif am ei feistrolaeth ar y pynciau. Bryd arall, llefarai ac ymddygai yn union yr un fath a phe bai yn un o'r llanciau mwyaf direidus, anwadal, a dibrofiad yn yr holl fyd. Yr oedd ei ymddiddan yn gyfryw, yn awr ac yn y man, fel na ddychmygai neb ddoi i gyfarfyddiad ag ef, nad yn ddyn tlawd y ganwyd ac y magwyd ef, ond yr oedd yna adegau pan nas gallai'r Siluriad, neu Edmwnd Prys ei hun, fynegu ei syniadau mewn gwell iaith, nac ymddwyn yn fwy boneddigaidd. Carai roddi'r argraff i rai o'i gydnabyddion mai rhyw leban gwirion wedi ei hanner grasu oedd, a'i fod yn hawdd iddynt wneyd ffwl o hono. Llwyddodd i wneyd ei hun yn adnabyddus trwy yr holl fro fel math o ddigrifwas i Meistr Sesyl Ifan, nes yr edrychid arno gan fwyafrif ei gydnabyddion fel un nas gallai gymeryd golwg sobr ar ddim.
Fel bron pawb oedd yn ei adnabod yn weddol, cymerodd Meistr Ifor Owain yn ganiataol pan ddaeth i gyfarfyddiad âg of gyntaf, mai rhyw fwbach diymenydd ydoedd, ac fod ei feistr yn ei gadw o gwmpas ei dŷ o garedigrwydd pur. Aeth misoedd heibio heb i Wil ddeyd na gwneyd dim i newid yr argraff mewn un modd. Ond digwyddodd un diwrnod i Meistr Ifor fod yn marchogaeth allan i gyfeiriad Machen. Wedi mynd o hono ychydig tu hwnt i bentref Basaleg, daeth i fan lle rhedai'r ffordd trwy goedwig