dew am gryn filltir. Yr oedd y deri mawrion a dyfent o bob tu i'r heol mor aml, mor frigog, ac mor dal, fel yr oedd braidd yn dywyll dan eu cysgodion ar ganol y dydd goleuaf. Dyna'r rheswm y gelwid yr ysmotyn hwnnw gan y bobl oddiamgylch yn "Gwm y Cysgodion." A dyna paham hefyd yr ofnai bron pawb o bobl yr ardal deithio y darn hwnnw o'r ffordd heb gwmni, hyd yn oed ar ganol dydd. Yr oedd Meistr Ifor yn marchogaeth yn bur araf dros y darn isaf o'r ffordd hon y diwrnod dan sylw pan glywai leisiau dynion,—lleisiau yn mynegu nwydau ffyrnig, a theimladau stormllyd dros ben. Clywai hefyd swn nifer o ergydion megis yn ateb eu gilydd yn gyflym, ac yn aml. "Ar garlam a thi, machgen i!" meddai wrth ei geffyl, ac ymhen ychydig o funudau daeth i'r fan lle 'roedd yr ymgyrch yn mynd ymlaen. Ar ganol y ffordd yn y man culaf, tywyllaf, a mwyaf unig, gwelai dri o ddynion ar dri o geffylau. Credodd ar unwaith mai lladron pen—ffordd oedd dau ohonynt. Gwisgent gotiau cochion, hetiau gwyrddion, a llodrau melynion gyda botymau disglaer, ond yr oeddent wedi duo eu hwynebau, a gwisgent wydrau tywyll er dieithro eu hunain. Ceisiai y ddau â'u holl egni daflu y dyn arall oddiar ei geffyl, ond er eu bod yn ddau ymhen un, methent yn lân a'i ddigyfrwyo; yn wir, yr oeddent mor bell o lwyddo, fel pan ddaeth Meistr Ifor yn ddigon agos i glywed ei eiriau, deallodd ei fod yn eu gwawdio, ac yn eu herio i wneyd eu gwaethaf. Pa fodd y buasai arno yn ddiweddarach, nis gwyddis, oblegid y funud y clywodd y lladron sŵn carnau ceffyl Ifor, yspardynasant eu hanifeiliaid, a diflanasant dros y clawdd i'r goodwig mewn eiliad, gan adael eu gwrthwynebydd i waeddi'n wawdlyd a buddugoliaethus ar eu hol,—
"Y lliprynod! Her i chwech o honoch y tro nesaf."
"Y ti, Wil Pilgwenlly, sydd yna?"
"Neb mwy pwysig, Meistr Ifor Owain."
"Pam 'rwyt yn eu gadael i ddianc, Wil? Tyred, gad i ni eu dilyn a'u dal."
"Na, gwynt da ar eu hol!" 'Ie, ond."
"'Rwyf wedi'm clwyfo!"
"Dy glwyfo, a thithau'n gwawdio mor galonnog, ac yn chwerthin mor iach!"